Er mwyn deall yn well y cyfleoedd i feithrin cydnerthedd yn yr amgylchedd morol yng Nghymru, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiad i adnabod cyfleoedd gofodol posibl i adfer cynefinoedd morol gwerthfawr.

Creodd yr adroddiad gynhyrchion gofodol (cronfa ddata Arc Geo) ar gyfer: ardaloedd yn y gorlifdir a allai fod yn addas ar gyfer creu fflatiau llaid a morfeydd heli drwy eu hailalinio mewn ffordd reoledig, ac ardaloedd ble gallai’r amgylchiadau fod yn gywir ar gyfer cynefin wystrys brodorol ac adfer gwelyau cregyn dilyw. Darparwyd y data ar gregyn dilyw gan JNCC. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried y potensial ar gyfer adfer riffiau Sabellaria alveolata er na chrëwyd data gofodol ar gyfer y cynefin hwn a chynefin morwellt, ond darparwyd hyn fel delwedd map gan JNCC.

Dylid ystyried yr haenau data gofodol hyn fel cymorth cychwynnol ar gyfer adnabod lleoliadau neu ardaloedd posib, ond mae llawer o gyfyngiadau iddynt sydd wedi’u trafod yn yr adroddiad. Ar gyfer unrhyw brosiectau adfer, dylid gwneud asesiadau pellach ar gyfer dilysu’r safle ac ymgysylltu’n lleol cyn symud ymlaen gydag unrhyw safle penodol.

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddata ffynhonnell a’i gyfuno i greu detholiad o Haenau GIS sydd wedi’u rhestru yn y crynodeb, er mwyn adnabod cyfleoedd gofodol ar gyfer adfer cynefinoedd a rhywogaethau morol ac arfordirol.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (2)

Lawrlwytho data gofodol
  • nrw_native_oyster_opportunities

  • nrw_saltmarsh_mudflats_opps_floodplains_smp

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn