Diffinnir 'dŵr gwastraff trefol' yn y Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (RhTDGT) fel y cymysgedd o ddŵr gwastraff domestig o geginau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau, y dŵr gwastraff o ddiwydiannau sy'n gollwng i garthffosydd, a dŵr glaw ffo o ffyrdd ac arwynebau anhydraidd eraill fel toeau, palmentydd a ffyrdd sy'n draenio i garthffosydd. Cyfeirir at ddŵr gwastraff trefol yn aml fel 'carthion'. Bwriad y RhTGDT yw diogelu'r amgylchedd dŵr ar gyfer yr anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw mewn dŵr ac o'i gwmpas, yn ogystal ag at ddibenion hamdden a'r defnydd ohono fel adnodd ar gyfer dŵr yfed, glanweithdra, diwydiant a masnach. Mae'r cofnod hwn yn cyfeirio at gyfres o setiau data gofodol y gellir eu defnyddio ym maes rheoli Dŵr Gwastraff Trefol.

O dan y RhTGDT, mae ardaloedd sensitif pellach wedi'u nodi oherwydd bod angen triniaeth bellach na thriniaeth eilaidd neu gyfatebol i fodloni Cyfarwyddebau EC eraill megis y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae'r ardaloedd sy'n dod o dan ardaloedd sensitif yn cynnwys Dyfroedd Ymdrochi, Dyfroedd Pysgod Cregyn a dyfroedd sydd eisoes yn Ewtroffig neu a fydd yn Ewtroffig cyn bo hir.

Dim ond ardaloedd sydd wedi'u dynodi gan Lywodraeth Cymru o dan Reoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr y mae Dyfroedd Pysgod Cregyn RhTGDT yn eu dangos.

Mae Dyfroedd Ymdrochi RhTGDT yn dangos safleoedd lle mae triniaeth fwy caeth na thriniaeth eilaidd yn angenrheidiol i fodloni gofynion y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi a dylai Defra eu dynodi'n ardaloedd sensitif

Mae Dyfroedd Ewtroffig RhTGDT yn gyrff dŵr sydd (neu a allai’n fuan droi) yn ewtroffig a dylent gael eu dynodi'n ardaloedd sensitif gan Defra. Mae hyn yn berthnasol i ddyfroedd croyw llonydd, afonydd, aberoedd a dyfroedd arfordirol.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (3)

Lawrlwytho data gofodol
  • UWWTR Eutrophic Waters

  • UWWTR Bathing Waters

  • UWWTR Shellfish Waters

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn