Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau Llifogydd 2 a 3
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi polisi cynllunio cenedlaethol. Mae’n dangos sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar raddfa’r perygl o lifogydd dros y ganrif nesaf ac yn nodi graddfa bosibl llifogydd gan dybio nad oes amddiffynfeydd yn eu lle. Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae hefyd yn nodi ardaloedd sydd mewn perygl o erydu arfordirol, ardaloedd sydd wedi gorlifo yn y gorffennol, a gwybodaeth allweddol am leoliad seilwaith amddiffyn rhag llifogydd.
Defnyddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel offeryn sgrinio gan awdurdodau lleol i ddeall ble y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i lywio asesiadau canlyniadau llifogydd sy’n benodol i safleoedd.
Mae’r parthau llifogydd o fewn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn dangos y risg nas amddiffynnir o lifogydd o afonydd, y môr ac o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.
Mae parth llifogydd 3 yn arddangos rhychwant y llifogydd o:
- afonydd gyda siawns o 1% (1 ym mhob 100) neu fwy o ddigwydd unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
- y môr gyda siawns o 0.5% (1 ym mhob 200) neu fwy o ddigwydd unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
- dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach gyda siawns o 1% (1 ym mhob 100) neu fwy o ddigwydd unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
Mae parth llifogydd 2 yn arddangos rhychwant y llifogydd o:
- afonydd gyda siawns llai nag 1% (1 ym mhob 100) ond mwy na 0.1% (1 ym mhob 1,000) neu’n gyfartal o ddigwydd unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
- y môr gyda siawns llai na 0.5% (1 ym mhob 200) ond mwy na 0.1% (1 ym mhob 1,000) neu’n gyfartal o lifogydd unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
- dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach gyda siawns llai nag 1% (1 ym mhob 100) ond mwy na 0.1% (1 ym mhob 1,000) neu’n gyfartal o ddigwydd unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio wedi’i arddangos mewn dwy ran: golwg sylfaenol a golwg fanwl. Yn yr olwg sylfaenol, dangosir y perygl llifogydd o afonydd a’r môr fel haen wedi’i huno.Yn yr olwg fanwl, caiff y perygl llifogydd ei rannu yn ffynonellau unigol. Yn y ddwy olwg, dangosir y parthau llifogydd ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach ar wahân.
Cydnabyddiaeth:
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Dysgwch sut i ddefnyddio dyfeisiau OWS (WMS a WFS)
Data gofodol (4)
- Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau Llifogydd Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach
- Map Llifogydd ar gyfer: Afonydd a'r môr
- Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau Llifogydd o’r Môr
- Map Llifogydd ar gyfer: Afonydd
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 20 Mai 2026
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- FloodMapforPlanningFloodZones2and3
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Iaith
- Saesneg