Mae Asesiad Perygl Llifogydd Cymru yn darparu asesiad cenedlaethol o berygl llifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain (gan ddisodli set ddata Perygl Llifogydd o Afonydd a'r Môr).

Mae'r asesiad yn ystyried amddiffynfeydd rhag llifogydd ac yn cyfuno gwaith modelu newydd ar raddfa genedlaethol â modelau manwl ar raddfa leol i greu tri band o ddosbarthiad risg o dan y labeli 'Uchel', 'Canolig' ac 'Isel'.

Ar gyfer Afonydd a Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach:

  • Mae risg ‘Uchel’ yn golygu bod siawns o lifogydd o fwy nag 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn yn yr ardal hon.
  • Mae risg ‘Ganolig’ yn golygu bod siawns o lifogydd o rhwng 1 mewn 100 (1%) ac 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn mewn ardal.
  • Mae risg ‘Isel’ yn golygu bod siawns o lifogydd o rhwng 1 mewn 1000 (0.1%) ac 1 mewn 100 (1%) bob blwyddyn mewn ardal.

Ar gyfer y Môr:

  • Mae risg ‘Uchel’ yn golygu bod siawns o lifogydd o fwy nag 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn yn yr ardal hon.
  • Mae risg ‘Ganolig’ yn golygu bod siawns o lifogydd o rhwng 1 mewn 200 (0.5%) ac 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn mewn ardal.
  • Mae risg ‘Isel’ yn golygu bod siawns o lifogydd o rhwng 1 mewn 1000 (0.1%) ac 1 mewn 200 (0.5%) bob blwyddyn mewn ardal.

Mae'r asesiad risg yn ystyried effaith amddiffynfeydd rhag llifogydd pan fo gennym wybodaeth. Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau llifogydd, ond nid ydynt yn atal y siawns o lifogydd yn gyfan gwbl oherwydd gall dŵr fynd drostynt neu gallant fethu.

Mae gwybodaeth perygl llifogydd ar gyfer pob ffynhonnell wedi'i chreu fel 'croen nionyn', h.y. heb unrhyw ddata sy'n gorgyffwrdd rhwng bandiau risg unigol. Dylid cyfuno'r bandiau risg hyn a'u harddangos fel un haen ar gyfer pob ffynhonnell llifogydd.

Os dangosir data ar ffurf mapiau i eraill, dylid defnyddio graddfeydd map priodol o ystyried natur ddangosol y modelu.  Dylid ei ddangos gyda graddfa chwyddo mwyaf o 1:5,000 a defnyddio mapio sylfaen o 1:10,000 i roi cyd-destun.

Mae'r mapio llifogydd yn seiliedig ar ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ac nid yw'n benodol ar gyfer eiddo unigol. Nid yw CNC yn cadw gwybodaeth am adeiladwaith eiddo unigol a allai effeithio ar ba un ai y gallai llifogydd o ddyfnder penodol fynd i mewn i eiddo ac achosi difrod. Mae ein gwybodaeth fel y cyfryw wedi'i chynhyrchu i nodi ardaloedd cyffredinol a allai fod mewn perygl o ddioddef llifogydd ar gyfer ymchwiliad pellach.

Cydraniad gofodol y data:

Modelu ar raddfa genedlaethol a wnaed gan ddefnyddio cydraniad grid o 2m.

Modelu ar raddfa leol a wnaed gan ddefnyddio gwahanol gydraniadau, yn nodweddiadol rhwng 2m – 10m.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad prosiect FRAW (2019) a thudalen we CNC Deall eich canlyniadau perygl llifogydd (https://naturalresources.wales/flooding/managing-flood-risk/understanding-your-flood-risk-results?lang=cy ) i gael mwy o wybodaeth am ein data perygl llifogydd a sut y dylid ei ddefnyddio.

Mae'r Lefel Perygl dan Adolygiad yn nodi lleoliadau lle mae ein hasesiad risg o dan adolygiad dros y chwe mis nesaf oherwydd argaeledd gwybodaeth newydd o fodelau ar raddfa leol.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (4)

Lawrlwytho data gofodol
Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn