Mapiau Perygl Llifogydd Cenedlaethol

Mae'r Mapiau Peryglon Llifogydd a Risg Cenedlaethol yn seiliedig ar fodelu cyffredinol yn unig. Cyhoeddwyd y mapiau i gydymffurfio â Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009) a Chyfarwyddeb yr UE (2007/60/EC) a chawsant eu defnyddio i gyfarwyddo’r gwaith o greu cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru. Nid oes gan y mapiau hyn unrhyw statws swyddogol at ddibenion cynllunio neu yswiriant, felly cynghorir y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio'r wybodaeth sydd i’w chael yn Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, y Map Cyngor Datblygu/Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (fel y bo'n briodol) at y dibenion hyn gan y bydd y rhain yn fwy diweddar ac yn cynnwys gwybodaeth fodelu well.

Mae'r Mapiau Perygl Llifogydd Cenedlaethol wedi cael eu creu ar gyfer tair ffynhonnell o lifogydd, sef:

  1. Llifogydd o afonydd
  2. Llifogydd o'r môr
  3. Llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae'r mapiau'n dangos y perygl mewn perthynas ag amrywiaeth o dderbynyddion, wedi'u grwpio yn y categorïau Pobl, Economaidd a'r Amgylchedd. Caiff gwybodaeth am risg ei chydgasglu a'i harddangos ar raddfa cymuned.

Ar gyfer afonydd a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach, risg uchel yw Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol (AEP) o hyd at 1 mewn 30 o flynyddoedd, risg ganolig yw AEP o rhwng 1 a 30 ac 1 mewn 100 o flynyddoedd, a risg isel yw AEP o rhwng 1 mewn 100 o flynyddoedd ac 1 mewn 1,000 o flynyddoedd.

Ar gyfer y môr, risg uchel yw AEP o hyd at 1 mewn 30 o flynyddoedd, risg ganolig yw AEP o rhwng 1 mewn 30 ac 1 mewn 200 o flynyddoedd, a risg isel yw AEP o rhwng 1 mewn 200 o flynyddoedd ac 1 mewn 1,000 o flynyddoedd.

Datganiad priodoliau

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gwybodaeth © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH, Asiantaeth yr Amgylchedd © EA a Getmapping Plc a Bluesky International Limited [2015]. DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data'r AO © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata. Gwasanaethau Tir ac Eiddo © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (9)

Lawrlwytho data gofodol
Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Dyfroedd Mewndirol

Nodweddion dŵr mewndirol, systemau draenio a'u nodweddion. Enghreifftiau: afonydd a rhewlifoedd, llynnoedd halen, cynlluniau defnyddio dŵr, argaeau, cerhyntau, llifogydd, ansawdd dŵr, siartiau hydrograffig

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn