Adnabod
- Teitl
- Maes Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019
- Crynodeb
MALIC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ei nod yw canfod yr ardaloedd bach hynny o'r wlad sydd â'r crynoadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Amddifadedd yw'r diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y byddem yn eu disgwyl yn ein cymdeithas. Gall hyn fod yn nhermau nwyddau materol neu allu'r unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.
Grŵp o fesuriadau gwahanol wedi'u cyfuno'n un rhif yw Mynegai. Mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd:
- Incwm
- Cyflogaeth
- Iechyd
- Addysg
- Mynediad at wasanaethau
- Tai
- Diogelwch cymunedol
- Amgylchedd ffisegol
Mae MALlC yn rhoi graddfa i bob ardal bach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig). Nid yw'n rhoi mesuriad o lefel amddifadedd mewn ardal.
Adnoddau eraill MALlC
Mae data ar safleoedd a dangosyddion MALlC ar gael i'w lawrlwytho o StatsCymru.
Mae'r ardal MALlC ar ein gwefan Ystadegau ac ymchwil yn cynnwys datganiadau blaenorol o ddata yn ogystal â newyddion a diweddariadau. Gellwch hefyd ffeindio:
- Crynodebau data MALlC 2019, gan gynnwys ein prif Adroddiad Canlyniadau
- Canllaw ac Adroddiad Technegol MALlC 2019
- Gwybodaeth geo-ofodol ar MALlC 2019 ar y Porth daear i Gymru, "MDC".
- MALlC 2019 gwefan rhyngweithiol
- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Dyddiad creu:
- 27 Tachwedd 2019
- Math
- Data gofodol
- Categori:
- Cymdeithas
- Rhanbarthau
- Global
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
Gwybodaeth
- Maint gofodol
- System daflunio
- EPSG:27700
- Estyniad x0
- 146597.199797902
- Estyniad x1
- 355308.0
- Estyniad y0
- 164586.296917809
- Estyniad y1
- 395984.199957072
Nodweddion
Cyswllt
- E-bost
- data@llyw.cymru
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /layergroups/inspire-wg:WelshIndexOfMultipleDeprivationWIMD2019
- Tudalen fetadata
- /layergroups/inspire-wg:WelshIndexOfMultipleDeprivationWIMD2019/metadata_detail