MALIC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ei nod yw canfod yr ardaloedd bach hynny o'r wlad sydd â'r crynoadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Amddifadedd yw'r diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y byddem yn eu disgwyl yn ein cymdeithas. Gall hyn fod yn nhermau nwyddau materol neu allu'r unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.

Grŵp o fesuriadau gwahanol wedi'u cyfuno'n un rhif yw Mynegai. Mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd:

- Incwm

- Cyflogaeth

- Iechyd

- Addysg

- Mynediad at wasanaethau

- Tai

- Diogelwch cymunedol

- Amgylchedd ffisegol

 

Mae MALlC yn rhoi graddfa i bob ardal bach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig). Nid yw'n rhoi mesuriad o lefel amddifadedd mewn ardal.

 

Adnoddau eraill MALlC

Mae data ar safleoedd a dangosyddion MALlC ar gael i'w lawrlwytho o StatsCymru.

Mae'r ardal MALlC ar ein gwefan Ystadegau ac ymchwil yn cynnwys datganiadau blaenorol o ddata yn ogystal â newyddion a diweddariadau. Gellwch hefyd ffeindio:

 

 

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (9)

Lawrlwytho data gofodol
Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Cymdeithas

Nodweddion cymdeithas a diwylliannau. Enghreifftiau: aneddiadau, anthropoleg, archeoleg, addysg, credoau, moesau ac arferion traddodiadol, data demograffig, ardaloedd hamdden a gweithgareddau, asesiadau effaith gymdeithasol, trosedd a chyfiawnder, gwybodaeth cyfrifiad

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad creu:
27 Tachwedd 2019
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn