1.1 Cefndir

Lleoedd yw Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd wedi cael eu rhoi ar restr ryngwladol gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO oherwydd eu gwerth cyffredinol eithriadol, a'u bod mor bwsig fel eu bod uwchlaw ffiniau cenedlaethol. Ar hyn o bryd mae gan Gymru bedwar safle treftadaeth y byd – Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yng Ngogledd-orllewin Cymru; Tirwedd lechi Gogledd-orllewin Cymru; Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Ne-ddwyrain Cymru; a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

1.2 Amlder Diweddaru

Er bod y broses o arysgrifo Safleoedd Treftadaeth y Byd yn un barhaus, mae'n broses hir a all gymryd nifer o flynyddoedd i'w chwblhau. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o Lle o dro i dro.

1.3 Darluniad

Gall disgrifiad o Safle Treftadaeth y Byd gynnwys nifer o gydrannau, er enghraifft: - - Safle Treftadaeth y Byd - Lleoliadau Hanfodol - Golygfa Gylchran - Golygfeydd Arwyddocaol Mae rhagor o wybodaeth am y cydrannau hyn i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw). Mae pob cofnod swyddogol o Safle Treftadaeth y Byd yn cynnwys map. Mae'r map yma wedi'i gyfieithu o'r map arysgrif swyddogol a gyhoeddwyd a chredir ei fod yn ddarlun cywir.Gellir gweld copau o fapiau'r arysgrifau gwreiddiol ar wefan Confensiwn Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae'r set ddata hon wedi bod yn destun rhaglen Gwella Cywirdeb Lleoliadol.

1.4 Defnyddio Data

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data’n addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael ei ddehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data ei wirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw). Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: - Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored  https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3//https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

1.5 Gwybodaeth Arall

Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.

1.6 Cyngor Cyffredinol

Dylai pob ymholiad cynllunio a all effeithio ar Safle Treftadaeth y Byd, ei leoliad neu olygfa arwyddocaol gael ei gyfeirio at Cadw. Cynghorir ymgeiswyr i geisio cyngor cyn cynllunio hefyd, a hynny'n gynnar yn y broses gynllunio, er mwyn rhoi sylw i faterion a allai godi yn nes ymlaen o bosibl.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (4)

Lawrlwytho data gofodol
Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Cymdeithas

Nodweddion cymdeithas a diwylliannau. Enghreifftiau: aneddiadau, anthropoleg, archeoleg, addysg, credoau, moesau ac arferion traddodiadol, data demograffig, ardaloedd hamdden a gweithgareddau, asesiadau effaith gymdeithasol, trosedd a chyfiawnder, gwybodaeth cyfrifiad

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad addasu:
30 Gorffenaf 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn