Mae’r haen yma'n dangos yr ardal ffocws ar gyfer polisi SAF_01b i ddiogelu gweithgareddau cychod hamdden (hynny yw, yr ardaloedd sydd fwyaf arwyddocaol ar gyfer gweithgarwch y sector), sy’n berthnasol ar ddyddiad cyhoeddi’r Datganiad Technegol Cynllunio Morol: polisi diogelu ar gyfer cychod hamdden ym mis Mawrth 2023.

Mae’r ardal ffocws ar gyfer polisi SAF_01b i ddiogelu gweithgareddau cychod hamdden (hynny yw, yr ardaloedd sydd fwyaf arwyddocaol ar gyfer gweithgarwch y sector) yn seiliedig ar yr UK Coastal Atlas of Recreational Boating (2019) gan y RYA. Mae haenau Atlas Arfordirol y RYA i'w gweld ar Borthol Cynllunio Morol Cymru o dan gategori'r Sectorau, yna is-gategori Twristiaeth a Hamdden. Er mwyn gweld y cyd-destun a darlun mwy cyflawn o weithgaredd cychod hamdden, rydym yn argymell edrych ar yr Ardal SAF_01b ynghyd â haenau gwreiddiol Atlas Arfordirol y RYA.

Mae setiau data’r RYA yn defnyddio data AIS am gychod hamdden a gafwyd rhwng mis Mai a mis Medi 2014 a 2017 i bennu dwysedd gweithgarwch cychod yn nyfroedd arfordirol y DU. Yn ardal cynllun morol Cymru, mae’r dwysedd cymharol yn amrywio o 0.3 i 3.4 ar raddfa logarithmig. Pennwyd ffiniau’r ardal ffocws ar sail dwysedd o 1 fan leiaf ar y raddfa hon, i ddangos y mannau lle ceir gweithgarwch cychod dwys.

I roi darlun mwy cyflawn o weithgarwch cychod hamdden, mae’r ardal ffocws ar gyfer polisi SAF_01b ar gyfer cychod hamdden yn cynnwys hefyd Ardaloedd Cychod Cyffredinol fel y’u diffinnir yn Atlas y RYA.

Tynnwyd ardaloedd bach ynysig o weithgarwch tybiedig gan gychod o’r ardal ffocws ar gyfer polisi SAF_01b. Symleiddiwyd ffiniau’r ardal ffocws i helpu 
i sicrhau bod y prif ardaloedd cychod hamdden yn cael eu cynrychioli ond gyda ffiniau’r ardaloedd yn cael eu nodi’n glir. 

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (8)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
geom
focus_area_en Focus Area
ardal_ffocws_cy Ardal Ffocws
cafeat_cy Cafeat
caveat_en Caveat
policy Polisi
disgrifiad_polisi_cy Disgrifiad Polisi
policy_description_en Policy Description

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Cefnforoedd

Nodweddion a nodweddion cyrff dŵr halen (ac eithrio dyfroedd mewndirol). Enghreifftiau: llanw, tonnau llanw, gwybodaeth arfordirol, riffiau

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol