Mae lliniaru llygredd aer yn cael ei sgorio yn y Map Cyfleoedd Coetir (WOM) gan ddefnyddio dwy set ddata wahanol sy'n nodi'r gallu i liniaru effeithiau PM2. 5 (ar iechyd pobl) ac Amonia (yn bennaf ar gyfer effeithiau ar ecosystemau gan fod manteision i iechyd pobl yn cael eu cynnwys o dan PM2.5). Oherwydd y ddau fath gwahanol o effaith (iechyd pobl ac ecosystemau), roedd angen dwy haen ar wahân i ddangos y lleoliadau gorau ar gyfer creu coetir er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn. Mae’r sgoriau o’r naill haen a’r llall yn cael eu haneru ac yna eu cyfuno er mwyn osgo cyfrif llygredd aer ddwywaith o'i gymharu â haenau sgorio eraill. Mae’r haen hon yn dangos y cyfle i goed dynnu llygredd ar ffurf deunydd gronynnol (PM2.5) o’r aer er lles pobl. Mae lefelau uchel o ronynnau PM2.5 yn gysylltiedig â nifer o effeithiau iechyd, gan gynnwys nifer y cleifion ysbyty sydd ag afiechydon anadlu a chardiofasgiwlaidd, a disgwyliad oes is. Gwelir bod coetir yn effeithiol iawn wrtth dynnu PM2.5 ar lefel tirwedd. Darparwyd y data gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), ac mae'n ffrwyth eu gwaith modelu i gefnogi Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP). Mae modelau PM2.5 yn seiliedig ar allyriannau llygredd, adweithiau cemegol â llygryddion eraill a’r tywydd, a’r gallu i gludo llygredd. Wedyn cafodd y setiau data hyn eu cysylltu â data dwysedd poblogaeth i gyfrif sgôr sy’n dangos y cyfle i wella ansawdd aer ar sail sut mae’n cael ei gludo, a nifer y bobl fyddai’n elwa o gael ansawdd aer gwell. Caiff yr haen ei sgorio yn ôl targed lleihau PM2.5 ar lefel tirwedd a bydd yn nodi’r mannau lle byddai creu coetir newydd yn sicrhau’r manteision mwyaf i bobl, ar sail yr hyn rydym yn ei wybod am y gallu i gludo llygredd a’r manteision i iechyd pobl. Bydd sgôr o 0 yn golygu dim manteision; bydd sgôr o 5 yn golygu llawer o fanteision.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
grid_code Sgôr
shape_length
shape_area
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
04 Awst 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, GWC21_Air_Quality_PM25_Dissolve_Score
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg