Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
objectid | ||
grid_code | Sgôr | |
shape_length | ||
shape_area | ||
geom |
WOM21 Dal Carbon
Mae’r haen hon yn dangos, o waith modelu ar gydraniad gofodol o 250m2, uchafswm y tunelli o garbon y mae’n bosibl eu storio fesul hectar bob blwyddyn drwy blannu coed. Mae Forest Research (FR) wedi modelu nifer o rywogaethau (llydanddail a chonwydd) gan ddefnyddio eu dull Dosbarthu Safleoedd Ecolegol (ESC), gan ystyried tymheredd cronnol, diffyg lleithder, cryfder y gwynt, cyfandiroledd, lleithder y pridd a systemau maethynnau pridd. Wedyn cafodd y coed mwyaf cynhyrchiol o bob math o goetir eu dewis fel y rhywogaethau mwyaf addas ar gyfer lleoliad penodol, a’u modelu gan ddefnyddio CARBINE (dull modelu carbon FR).
Mae model CARBINE yn amcangyfrif y newid mewn stociau carbon ar gyfer coedwigoedd (gan gynnwys y biomas mewn coed byw a choed marw, ac yn y pridd) ac unrhyw gynhyrchion pren cysylltiedig sy’n cael eu cynaeafu, yn ogystal â'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hosgoi drwy ddefnyddio cynhyrchion pren yn lle tanwydd ffosil a deunyddiau sy’n ddwys mewn tanwydd ffosil. Gwnaeth Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) ystyried y canlyniadau wedi'u modelu a dewis y math o goetir a oedd yn dal a chadw’r lefelau uchaf o garbon ar y darn hwnnw o dir, boed yn goed conwydd (tua 90% o'r arwynebedd) neu'n goed llydanddail (tua 10% o'r arwynebedd).
Rhagdybir system reoli coedwigo isel ei heffaith (LISS) wrth reoli coed llydanddail. Rhagdybir bod systemau rheoli coed conwydd yn golygu gwaith teneuo a chwympo.
Mae’r sgôr yn seiliedig ar faint o dunelli o garbon sy’n cael eu dal fesul hectar y flwyddyn, o 0 – yr isaf (allyriadau net) – i 5 – y gorau (sy’n dal y swm mwyaf o garbon).
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (5)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad creu:
- 04 Awst 2021
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- features, GWC21_Carbon_Dissolve_Score
- Pwynt cyswllt:
- Data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg