Nid yw hon yn haen ymgynghori orfodol. Nid oes rhaid cadw at yr ardaloedd a ddangosir yn yr haen hon ac yn y canllawiau cysylltiedig wrth baratoi cynnig i greu coetir ac ni fydd yn effeithio ar ein gallu i ddilysu’ch cynllun. Fodd bynnag, trwy gynnwys yr argymhellion hyn yn eich cynllun creu coetir, gallai hynny helpu madfallod dŵr cribog a llawer o amffibiaid eraill a allai fod yn bresennol. Mae'r haen hon yn dangos lleoliad cynefinoedd a allai fod yn addas ar gyfer madfallod dŵr cribog, yn ôl modelau gwasgariad cynefinoedd a rhywogaethau sy’n seiliedig ar fanylion lleoliadau lle gwyddom eu bod yn bresennol a gwaith ymchwil yng Nghymru gan CNC a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (https://www.arc-trust.org/). Fodd bynnag, nid yw eu presenoldeb wedi'i gofnodi'n ffurfiol. Gall coedwigo sensitif ddod â budd i lawer o fathau o amffibiaid. Mae angen amrywiaeth o gynefinoedd llaith ar fadfallod dŵr cribog, ac amffibiaid eraill, i orffwys ynddynt ac i gynnal yr infertebratau y maent yn eu bwyta. Ymddengys bod madfallod y dŵr yn arbennig o hoff o goetir. Felly er lles amffibiaid (1) lluniwch gynllun plannu sy’n cynnwys cynefinoedd sy’n cysylltu pyllau dŵr â’i gilydd, ond gadewch glustogfa o 15 metr o leiaf (o amgylch pyllau) heb ei phlannu. Bydd angen llai o waith rheoli yn y dyfodol os bydd ymylon pyllau wedi’u gadael heb eu plannu. (2) Lle gallwch, ystyriwch adael coed marw fel mannau i gael lloches. (3) Peidiwch â gadael i brysgwydd a choed dyfu os oes perygl iddynt effeithio ar y cyflenwad dŵr i’r pyllau. (4) Os ydych am greu pyllau newydd, trowch at y llawlyfr hwn (https://www.arc-trust.org/Handlers/Download.ashx?IDMF=3202d642-d476-4e4a-a0cc-516eede869be) (5) Dylai mesurau bioddiogelwch fod ar waith wrth weithio mewn pyllau neu o'u hamgylch i atal rhywogaethau estron goresgynnol a chlefydau amffibiaid fel chytrid. Argymhellir bod gwaith yn cael ei wneud yn unol ag asesiadau risg bioddiogelwch. Mae rhagor o wybodaeth am fioddiogelwch ar gael yn http://www.nonnativespecies.org/index.cfm?sectionid=58

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
layer
shape_length
shape_area
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
03 Awst 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, GWC21_GCN_Potential_Habitat_Voluntary
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol