Mae cymunedau ffyngau glaswelltir a rhai rhywogaethau unigol ar restr Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac felly mae angen eu diogelu. Maent yn anodd eu harolygu gan mai dim ond am tua mis o'r flwyddyn y mae'r ffrwythgyrff i'w weld felly bydd unrhyw un sy'n asesu a yw safle'n addas ar gyfer plannu coed arno'n debygol o'u methu. Byddai plannu coed ar dir sy'n cynnal ffyngau glaswelltir yn dinistrio'r ffyngau hynny gan fod angen glaswelltir di-gysgod wedi'i bori'n glos ar ffyngau i oroesi. Mae'r set ddata hon yn dangos lleoliad hysbys rhywogaethau ffyngau 'nodedig' mewn perthynas â ffiniau'r cae glaswelltir lled-naturiol cyfatebol. Lle nad oes glaswelltir lled-naturiol yn bresennol yn y lleoliad, defnyddir clustogfa 250m o amgylch y lleoliad arolygu. Mae rhywogaethau ffwng 'nodedig' yn cynnwys (a) rhywogaethau'r Rhestr Goch (mewn Perygl Difrifol, mewn Perygl, Bregus neu dan Rywfaint o Fygythiad) a/neu rywogaethau Adran 7; (b) cyfanswm o 10 neu fwy o rywogaethau ffwng glaswelltir unigol. Mae'r ddau mewn rhai ardaloedd. Lle mae lleoliad yr arolwg yn croesi ffiniau caeau lled-naturiol sy'n fwy na 1000m, defnyddir clustogfa o 1km i gyfyngu ar faint y safle arolygu. Gweler GN002 am ragor o ganllawiau.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
layer
shape_length
shape_area
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
03 Awst 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, GWC21_Grassland_Fungi
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg