Mae’r haen hon yn dangos ble yng Nghymru y gellid disgwyl i fasged gyfun o 7 rhywogaeth o goed ffynnu o dan amrywiaeth o ffactorau gwahanol sy'n effeithio ar hyfywdra coed. Maent yn cynnwys ansawdd pridd, yr hinsawdd yn 2020, y potensial ar gyfer llifogydd ac eithafion tymhorol. Bydd creu coetir yn yr ardaloedd hyn yn cyfrannu at ddal carbon ac at gynhyrchu pren yn ogystal â chreu cynefinoedd dymunol. Daw’r haen ddata hon o waith modelu “Modelu data ALC a UKCP18 ar gyfer addasrwydd cnydau” sy’n rhan o Raglen Galluogrwydd, Addasrwydd a Hinsawdd Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chynnal gyda chymorth Environment Systems Limited, RSK ADAS Limited a Phrifysgol Cranfield. Fel rhan o’r gwaith modelu, ystyriwyd newidynnau allweddol o’r set ddata Categorïau Tir Amaethyddol (ALC – ansawdd pridd), amcanestyniadau (hinsawdd) UKCP18 a modelau bioffisegol eraill ar gyfer gwynt, rhew, ewyn halen a’r perygl o lifogydd a’u heffaith bosibl ar dwf cnwd ac ar rywogaethau dethol o goed mewn ardaloedd gwahanol. O ran sgorio, mae’r haen hon yn defnyddio data cyfredol (2020) o dan y senario newid hinsawdd canolig, fel yr un fwyaf dibynadwy. Y fasged gynrychiadol o 7 rhywogaeth o goed masnachol ac amgylcheddol yw: • Ffawydd, Deri Digoes, Bedw Arian • Ffynidwydd Douglas, Sbriws Norwy, Sbriws Sitca, Cedrwydd Coch Mae’r sgôr yn seiliedig ar nifer y rhywogaethau o goed fesul picsel o 50m2: 0 (ardaloedd lle y rhagwelir nad ydynt yn addas ar gyfer yr un o’r 7 rhywogaeth), i 5 (ardaloedd sy’n addas ar gyfer pob rhywogaeth heb unrhyw gyfyngiadau).

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
grid_code Sgôr
objectid
shape_area
shape_length
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
04 Awst 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, GWC21_Tree_Species_Viability_Dissolve_Score
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg