Adnabod

Teitl
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893)
Crynodeb

Mae hon yn set ddata arbrofol sy'n cynnwys coetiroedd fel y dangosir ar Fapiau Hanesyddol Arolwg Ordnans (OS) 1:2500 (neu 25").  Ar gyfer y set ddata hon, diffiniwyd coetir fel unrhyw ardal gydag isafswm o 20m o led ac isafswm arwynebedd o 0.5 hectar a oedd yn cynnwys y symbolau Coed, Coed Cymysg, Pinwydd, Llwyni, Perllan neu Goed Helyg, fel y dangosir yn allwedd y map.

Cynhyrchir yr amcangyfrifon hyn gan ddefnyddio model gweledigaeth gyfrifiadurol AI o'r enw masg-rcnn. Mae'r model hwn wedi'i hyfforddi ar sampl fach o ddata wedi'i labelu â llaw sy'n cynnwys gwahanol goetiroedd fel y disgrifir uchod. Mae'r model yn dysgu'r nodweddion allweddol sy'n gysylltiedig â choetir, megis dosbarthiad a phatrwm picsel. Yna, cymhwysir y model i ragweld coetiroedd drwy nodi'r un nodweddion ar ddata nas gwelwyd ledled Cymru.

Gan fod y dechneg hon yn cynnwys modelu rhagfynegol, mae ansicrwydd gyda'r set ddata. Rydym wedi ceisio lliniaru'r rhain trwy ychwanegu camau dilysu ychwanegol ar ragfynegiadau'r model, fodd bynnag, mae perygl o hyd y bydd y model yn cam-ragweld, neu ddim yn nodi, coetiroedd ar y map.

Nid oedd Mapio Hanesyddol Arolwg Ordnans (OS) 1:2500 (neu 25") Cyfres Sirol 1843-1893 yn arolygu ardaloedd ucheldirol helaeth ac felly ni ellir eu cynnwys yn y set ddata hon.

Yn hytrach, rydym yn argymell y dylid defnyddio'r set ddata hon i nodi'r tebygolrwydd bod coetiroedd yn bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal â ffiniau'r ardaloedd coediog, mae'r model hefyd yn darparu sgôr tebygolrwydd sy'n cynrychioli hyder y model bod yr ardal honno'n cynnwys coetir.

Mae'r set ddata hon yn cael ei chreu gan ddefnyddio methodoleg arbrofol wahanol i allbynnau coetiroedd hanesyddol eraill. Er enghraifft, crëwyd Rhestr Coetiroedd Hynafol trwy adolygu a chymharu presenoldeb coetir ar Mapiau hanesyddol Arolwg Ordnans (OS) 1:2500 (neu 25") Cyfres Sirol 1843-1893 gyda'r Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol, felly dim ond ardaloedd o goetir a oedd yn dal i fod yn bresennol fel coetir yn 2011 a gynhwyswyd.

Os oes gennych unrhyw adborth ar y set ddata arbrofol hon a sut y gellid ei gwella, cysylltwch â unedgwyddordata@llyw.cymru

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Math
Data gofodol
Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Geography & Technology

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
173224.453125
Estyniad x1
356887.1875
Estyniad y0
165744.734375
Estyniad y1
394883.34375

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
data@llyw.cymru
Sefydliad
Llywodraeth Cymru
Adran
Daearyddiaeth a Thechnoleg

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layers/geonode:ai_woodland_output
Tudalen fetadata
/layers/geonode:ai_woodland_output/metadata_detail

GeoJSON
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).json
DXF
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).dxf
Zipped Shapefile
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).zip
Excel
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).excel
CSV
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).csv
GML 3.1.1
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).gml
GML 2.0
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).gml
OGC Geopackage
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893).gpkg

Diweddbwyntiau OWS

WMS
/capabilities/layer/7029/?ows_service=wms
WFS
/capabilities/layer/7029/?ows_service=wfs