| Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
|---|---|---|
| pubdate | Blwyddyn cyhoeddi | |
| label | Label | |
| score | Sgôr tebygolrwydd | |
| county | Sir | |
| map | ||
| geom | ||
| fid |
Coetiroedd Hanesyddol a ragwelir gan AI Cymru (Cyfres Sir yr AO – 1843-1893)
Llywodraeth Cymru
Mae hon yn set ddata arbrofol sy'n cynnwys coetiroedd fel y dangosir ar Fapiau Hanesyddol Arolwg Ordnans (OS) 1:2500 (neu 25"). Ar gyfer y set ddata hon, diffiniwyd coetir fel unrhyw ardal gydag isafswm o 20m o led ac isafswm arwynebedd o 0.5 hectar a oedd yn cynnwys y symbolau Coed, Coed Cymysg, Pinwydd, Llwyni, Perllan neu Goed Helyg, fel y dangosir yn allwedd y map.
Cynhyrchir yr amcangyfrifon hyn gan ddefnyddio model gweledigaeth gyfrifiadurol AI o'r enw masg-rcnn. Mae'r model hwn wedi'i hyfforddi ar sampl fach o ddata wedi'i labelu â llaw sy'n cynnwys gwahanol goetiroedd fel y disgrifir uchod. Mae'r model yn dysgu'r nodweddion allweddol sy'n gysylltiedig â choetir, megis dosbarthiad a phatrwm picsel. Yna, cymhwysir y model i ragweld coetiroedd drwy nodi'r un nodweddion ar ddata nas gwelwyd ledled Cymru.
Gan fod y dechneg hon yn cynnwys modelu rhagfynegol, mae ansicrwydd gyda'r set ddata. Rydym wedi ceisio lliniaru'r rhain trwy ychwanegu camau dilysu ychwanegol ar ragfynegiadau'r model, fodd bynnag, mae perygl o hyd y bydd y model yn cam-ragweld, neu ddim yn nodi, coetiroedd ar y map.
Nid oedd Mapio Hanesyddol Arolwg Ordnans (OS) 1:2500 (neu 25") Cyfres Sirol 1843-1893 yn arolygu ardaloedd ucheldirol helaeth ac felly ni ellir eu cynnwys yn y set ddata hon.
Yn hytrach, rydym yn argymell y dylid defnyddio'r set ddata hon i nodi'r tebygolrwydd bod coetiroedd yn bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal â ffiniau'r ardaloedd coediog, mae'r model hefyd yn darparu sgôr tebygolrwydd sy'n cynrychioli hyder y model bod yr ardal honno'n cynnwys coetir.
Mae'r set ddata hon yn cael ei chreu gan ddefnyddio methodoleg arbrofol wahanol i allbynnau coetiroedd hanesyddol eraill. Er enghraifft, crëwyd Rhestr Coetiroedd Hynafol trwy adolygu a chymharu presenoldeb coetir ar Mapiau hanesyddol Arolwg Ordnans (OS) 1:2500 (neu 25") Cyfres Sirol 1843-1893 gyda'r Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol, felly dim ond ardaloedd o goetir a oedd yn dal i fod yn bresennol fel coetir yn 2011 a gynhwyswyd.
Os oes gennych unrhyw adborth ar y set ddata arbrofol hon a sut y gellid ei gwella, cysylltwch â unedgwyddordata@llyw.cymru
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (7)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 15 Hydref 2024
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg