Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
msoa_code | Cod y MSOA | |
msoa_name | Enw’r MSOA | |
enw_r_msoa | Enw’r MSOA | |
number_of_council_tax_chargeable_second_homes | Nifer o ail gartrefi sy'n gymwys ar gyfer y dreth gyngor | |
nifer_o_ail_gartrefi_sy_n_gymwys_ar_gyfer_y_dreth_gyngor | Nifer o ail gartrefi sy'n gymwys ar gyfer y dreth gyngor | |
geom |
Nifer yr ail gartrefi y codir y dreth gyngor arnynt yn ôl yr ardal allbwn ehangach haen ganol (MSOA), mis Mawrth 2023
Llywodraeth Cymru
Mae'r set ddata hon yn dangos, ar gyfer mis Mawrth 2023, nifer yr anheddau y codwyd y dreth gyngor arnynt ac a oedd hefyd yn cael eu categoreiddio’n ail gartrefi.
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu cyflwyno ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol (MSOA) yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio data am y dreth gyngor a roddir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gan awdurdodau lleol Cymru.
Cafodd yr ystadegau eu cysylltu â haen ffiniau MSOA 2021 er mwyn gweld geometreg y ffin.
I weld y data sylfaenol ewch i Ceisiadau ystadegol ad-hoc: 25 Medi hyd 6 Hydref 2023
Nodiadau
Mae'r data ar gyfer ail gartrefi yn Sir Benfro yn berthnasol i fis Awst 2023. Nid oedd modd cysylltu 12 cofnod o ail gartrefi yn Sir Benfro gydag MSOA. Mae'r 12 cofnod hyn wedi'u heithrio o'r map hwn. Gallai 110 o gofnodion pellach o ail gartrefi yn Sir Benfro gael eu cysylltu gydag un o ddau MSOA cyfagos. Mae'r cofnodion hyn wedi'u cysylltu gydag ag un o'r MSOAs hyn yn unig. Gallai hyn arwain at dan/gorgyfrif posibl o hyd at 22 o ail gartrefi yn MSOAs Sir Benfro 002, Sir Benfro 008 a Sir Benfro 014 a than/gorgyfrif posibl o hyd at 10 ail gartref ym mhob MSOA arall yn Sir Benfro.
Mae'r data ar gyfer ail gartrefi yn Abertawe yn berthnasol i fis Awst 2023.
Nid oedd data ar gael ar gyfer Ynys Môn adeg cyhoeddi'r data (dangosir fel ".."). Gellir dod o hyd i ddata ar gyfer mis Awst 2021 yn ail gartrefi y codir treth y cyngor arnynt yng Nghymru: Awst 2021 (ONS).
Mae gwerthoedd wedi'u gwaredu lle mae llai na 5 ail gartref (a ddangosir fel "*"). Mae gwaredu eilaidd wedi digwydd ar gyfer nifer fach o werthoedd (a ddangosir hefyd fel "*").
Ffynhonnell: Data awdurdodau lleol am y dreth gyngor
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (6)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 17 Hydref 2023
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- Ail gartrefi, Council tax, Second homes, Y dreth gyngor
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg