1.1 Cefndir

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn ffurfio cofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae llawer ohonynt yn cynnig gwerth cadwraeth eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Fel ffynhonnell bleser a dysgu, a rhwydwaith gwerthfawr o fannau gwyrdd, mae gan ein parciau a’n gerddi hanesyddol ran bwysig i’w chwarae er mwyn creu Cymru sy’n fwy iach a gwyrdd.

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn adnodd bregus a chyfyngedig ac mae’n hawdd eu difrodi neu eu colli. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac annog y rhai sy’n gyfrifol am eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr ac unigryw. Diolch i’w gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r parciau hanesyddol a’r gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae cofrestru’n nodi safleoedd sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig i Gymru. Lluniwyd y Gofrestr er mwyn cynorthwyo cadwraeth wybodus parciau a gerddi hanesyddol gan berchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy. Mae Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i Weinidogion Cymru, drwy Cadw, lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae safleoedd ar y Gofrestr statudol yn parhau i fod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o reoli datblygiad.       

1.2 Pa Mor Aml y Caiff y Wybodaeth ei Diweddaru

Er bod y broses o ddynodi parciau a gerddi yn un barhaus, mae'r set ddata gyfredol wedi aros yn gyson ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o yma yn rheolaidd.

1.3 Darluniau

Tynnwyd y darluniau GIS o'r mapiau sylfaen Arolwg Ordnans mwyaf cywir a oedd ar gael ar adeg eu cyfansoddi. Ymhlith y ffynonellau ychwanegol i lywio'r darluniau mae ffotograffau awyrol hanesyddol a mapiau hanesyddol Landmark.

Mae’r saethau golygfa arwyddocaol yn cynrychioli cyfeiriad yn hytrach na maint yr olygfa.

1.4 Defnyddio Data

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data hyn am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data yn addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael eu dehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data hyn eu gwirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: -

Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'u trwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

1.5 Gwybodaeth Arall

Mae rhagor o wybodaeth am Parciau a Gerddi i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: -

Deall parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig | Cadw (llyw.cymru)

Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: -

Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru)

1.6 Cyngor Cyffredinol

Mae nodiadau canllaw i bobl sy'n darganfod llongddrylliadau hanesyddol ac i ddeifwyr hamdden ar gael gan Cadw. Mae angen trwyddedau gan Weinidogion Cymru i fonitro, arolygu neu gloddio llongddrylliadau hanesyddol dynodedig.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (1)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
ReferenceN Reference Number
SiteName Enw_saes
SiteName_c Enw
Type
Type_cy

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
25 Ionawr 2022
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol