Mae'r haen sgorio gyffredinol hon yn rhoi trosolwg strategol o'r ardaloedd sydd â’r cyfleoedd gorau i greu coetir. Mae’r lliw gwyrdd yn mynd yn dywyllach wrth i safle ddod yn fwy addas i greu coetir h.y. mae mwy o haenau data sgorio sy'n gorgyffwrdd yn cefnogi'r farn y byddai creu coetir ar y safle hwnnw'n cynnig mwy o fanteision. Cofiwch y bydd y lliw gwyrdd goleuach yn dal i gynnwys ardaloedd a ddylai gynnig manteision o ran creu coetir. Mae ardaloedd coetir presennol a chyrff dŵr wedi cael eu ‘dileu’ o'r haen sgorio. Dyma’r haenau data a ddefnyddir i greu’r haen sgorio gyffredinol i Gymru: Llygredd Aer - PM2.5; yn dangos y cyfle i goed gael gwared ar lygredd aer ar ffurf deunydd gronynnol (PM2.5) er budd poblogaethau dynol. Llygredd Aer - amonia; yn dangos y cyfle i goed gael gwared ar lygredd aer ar ffurf amonia. Carbon; yn dangos ardaloedd a restrwyd yn seiliedig ar botensial ar gyfer dal a storio carbon. Llygredd Dŵr Gwasgaredig; yn dangos effeithiau llygryddion ar ansawdd dŵr o fewn is-ddalgylchoedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Lliniaru Llifogydd; yn dangos lle disgwylir i greu coetir liniaru llifogydd. Tir nad yw'n gynefin; yn dangos ardaloedd a nodwyd yn rhai nad ydynt yn sensitif i greu coetir. Manteision Cymdeithasol; yn dangos lle disgwylir i greu coetir gyfrannu at well iechyd meddwl a mwy o fynediad cyhoeddus i fannau gwyrdd. Addasrwydd Coed; yn dangos ardaloedd lle disgwylir i rywogaethau coed ffynnu. Rhwydweithiau Cynefinoedd Coetir; yn dangos lle anogir plannu coed i sicrhau rhwydweithiau coetir mwy cadarn a gwydn er budd bioamrywiaeth. Mae gan bob haen sgorio ei hamrediad sgorio ei hun o 0 i 5. Cyfunir y rhain lle maent yn digwydd i ddarparu sgôr gyffredinol ar gyfer safle penodol.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (2)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
grid_code Sgôr
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
10 Medi 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, gwc21_overall_score_water_and_nfi_erased
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg