Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) yn ardal sydd wedi'i dewis ar sail meini prawf gwyddonol ac sy’n cael ei gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 oherwydd bod ynddi fywyd gwyllt neu nodweddion daearegol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ar gyfer gwarchod natur. Cafodd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA neu SACs) o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau y CE a ddaeth i rym ym 1992. Mae pob SAC, ynghyd ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA neu SPAs) a ddynodwyd o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt y CE er mwyn diogelu rhywogaethau adar prin a mudol, yn cynnwys rhwydwaith o safleoedd, sef y  Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, sy'n cynrychioli'r gorau o natur Cymru. Mae'r safleoedd ACA ar y tir yng Nghymru hefyd wedi'u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Oherwydd bod yn rhaid i CNC ystyried unrhyw effaith y gallai cynigion ar dir cyfagos ei chael ar SoDdGA, ychwanegodd glustogfeydd o 300m ar hyd SoDdGA biolegol nad ydynt yn rhai afonol, a chlustogfeydd o 100m ar hyd SoDdGA biolegol sydd yn rhai afonol. Nid oes unrhyw glustogfeydd ychwanegol ar gyfer SoDdGA daearegol. Er bod angen ymgynghori yn achos SoDdGA a'u clustogfeydd, mae yna enghreifftiau lle byddai plannu priodol yn fuddiol neu lle na fyddai’n cael fawr o effaith. Nid oes angen ymgynghori yn achos y clustogfeydd afonol o 100m ar yr amod bod y canllawiau gorfodol y manylir arnynt yn GN002 yn cael eu dilyn. Gweler GN002 am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (2)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (2)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
layer
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad creu:
10 Medi 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, gwc21_sssi_buffer
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg