Gwybodaeth gefndirol am ddynodi ardaloedd:

I gydnabod y gwahanol nodweddion ffisegol ac economaidd-gymdeithasol ar draws y rhanbarthau, cyflwynodd yr Undeb Ewropeaidd ddynodiadau Ardaloedd Llai Ffafriol i gefnogi ffermydd lle mae amodau cynhyrchu yn anodd. Cafodd y meini prawf cychwynnol ar gyfer nodi’r ardaloedd hyn eu sefydlu mewn deddfwriaeth Ewropeaidd yn 1975. (Cyfarwyddeb 75/268 EEC a’r mesurau cysylltiedig).

Ardal A (Dan Anfantais Ddifrifol)

Yn gyffredinol y tir sydd dan yr anfantais fwyaf difrifol wrth ei fesur yn ôl anfanteision i ffermwyr. Mae’r anfanteision hyn yn cael eu hachosi gan ffactorau megis, pridd, tirwedd, y cyfeiriad mae’r tir yn ei wynebu neu hinsawdd, naill ai’n unigol neu yn gyfuniad o’r rhain. Rhoddwyd statws Ardal Lai Ffafriol i’r rhan fwyaf o Ardal A yn wreiddiol yn 1975.

Ardaloedd a fabwysiadwyd o dan Erthygl 2.2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/268/EEC (Cyfnodolyn Swyddogol Rhif L128, 19.5.1975, t1), yr oedd rhestr ohonynt yn yr atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/276/EEC (Cyfnodolyn Swyddogol Rhif L128, 19.5.1975, t239), fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 76/685/EEC (Cyfnodolyn Swyddogol Rhif L231, 20.8.1976, t30), sydd bellach wedi cael ei dirymu, ac mae bellach yn yr atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 84/169/EEC (Cyfnodolyn Swyddogol Rhif L82, 26.3.1984, t67).

Ardal B (Dan Anfantais)

Yn seiliedig ar anfanteision i ffermwyr nid yw’r ardal dan anfantais hynod ddifrifol fel Tir Ardal A. Dynodwyd y tir yn Ardal Lai Ffafriol yn Chwefror 1984 ac estynnwyd y statws yn Rhagfyr 1990.

Ardaloedd a fabwysiadwyd o dan Erthygl 2.2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/268/EEC, y mae rhestr ohonynt yn yr atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 84/169/EEC, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 91/25/EEC (Cyfnodolyn Swyddogol Rhif L16, 22.1.1991, t25).

Nodyn: Cafodd y data ei gasglu yn gynnar yn y 1990au drwy greu mapiau digidol o fapiau papur OS 1:25,000 a Mapiau Offeryn Statudol. O ganlyniad ni fydd y ffiniau o reidrwydd yn adlewyrchu’r mapiau cyfredol.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
geom
objectid
lfa_id
status
statws

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Ffermio

Magu anifeiliaid a / neu drin planhigion. Enghreifftiau: amaethyddiaeth, dyfrhau, dyframaethu, planhigfeydd, bugeilio, plâu a chlefydau sy'n effeithio ar gnydau a da byw

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Rhifyn
3
Iaith
Saesneg
Ansawdd y data
<p><span style="font-family: arial, helvetica, sans-serif; font-size: 12pt;"><strong>Nodyn: </strong>Cafodd y data ei gasglu yn gynnar yn y 1990au drwy greu mapiau digidol o fapiau papur OS 1:25,000 a Mapiau Offeryn Statudol. O ganlyniad ni fydd y ffiniau o reidrwydd yn adlewyrchu&rsquo;r mapiau cyfredol.</span></p>
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol