| Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |

| reb_name_en | Welsh Economic Region | |
| ecrh_enw_cy | Rhanbarth Economaidd Cymru | |
| description_en | Area description | |
| disgrifiad_cy | Disgrifiad o'r ardal | |
| geom |
Rhanbarthau Economaidd Cymru
Llywodraeth Cymru
Cefndir
Mae’r Rhanbarthau Economaidd, fel y’u disgrifir yn ‘Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd’ Llywodraeth Cymru, wedi’u ffurfio o’r awdurdodau lleol canlynol:
Gogledd Cymru: Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.
Canolbarth a De-orllewin Cymru: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
De-ddwyrain Cymru: Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Thor-faen.
Mae’r ffiniau hyn yn dangos y tair ardal.
Yn y gorffennol, roedd rhanbarth y Canolbarth a’r De-orllewin wedi’i rannu’n ddau ranbarth economaidd, wedi’u ffurfio o’r awdurdodau lleol canlynol:
Canolbarth Cymru: Ceredigion a Phowys
De-orllewin Cymru: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
Nid yw’r hen raniad hwn wedi’i gynrychioli yn y set ddata.

Gwybodaeth Dechnegol
Mae’r ffiniau hyn wedi’u creu trwy uno ardaloedd Awdurdodau Lleol yn dri rhanbarth economaidd fel y’u disgrifir yn y cynllun gweithredu economaidd. Maent yn seiliedig ar fapiau Boundaryline yr Arolwg Ordnans, Hydref 2022.
Mae’r haenen hon yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Enw’r rhanbarth economaidd
- Disgrifiad o’r ardal
Terfynau daearyddol: Cymru, DU
Trwydded: Trwydded Llywodraeth Agored.
Caniateir ailddefnyddio’r data o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored ond dylid cydnabod y ffynhonnell a hawlfraint y perchenogion.
Datganiad priodoli: Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2023
Dyddiad creu: 02-2023
Fformat y Data: Nodweddion vector

Setiau data cysylltiedig
I weld ardaloedd y Fargen Twf neu Ddinesig, cliciwch yma
I weld rhanbarthau'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, cliciwch yma
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (5)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Ffiniau
- Dyddiad cyhoeddi:
- 01 Mawrth 2023
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- Economic, Economic regions, economy, Rhanbarthau economaidd
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Cyfyngiadau

Trwydded: Trwydded Llywodraeth Agored.

Caniateir ailddefnyddio’r data o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored ond dylid cydnabod y ffynhonnell a hawlfraint y perchenogion.

Datganiad priodoli: Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2023

- Pwrpas

I ddangos yn ddaearyddol ranbarthau economaidd Cymru fel y’u disgrifir yn Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd

- Iaith
- Saesneg
- Ei hyd o ran amser
- Rhag. 13, 2017, canol nos - Hydr. 31, 2022, canol nos
- Ansawdd y data

Terfynau daearyddol: Cymru, DU

Tarddiad y Data: Mae’r ffiniau hyn wedi’u creu trwy uno ardaloedd Awdurdodau Lleol yn dri rhanbarth economaidd fel y’u disgrifir yn Ffyniant i Bawb: cynllun gweithredu economaidd. Maent yn seiliedig ar fapiau Boundaryline yr Arolwg Ordnans, Hydref 2022.

Ffynhonnell y Data: Arolwg Ordnans (OS)

Dyddiad creu: 02-2023

Cynnyrch OS: BoundaryLine, Hydref 2022

- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol