Adnabod
- Teitl
- Dalgylchoedd Bychain
- Crynodeb
Mae’r set ddata hon yn cynnwys dull blaenoriaethu ar gyfer nodi dalgylchoedd bach, uwchlaw cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb aml a chyrsiau dŵr bach lle gallai Rheoli Llifogydd Naturiol (RhLlN) fod yn ddull addas o leihau perygl llifogydd. Gellir defnyddio’r set ddata i gefnogi’r gwaith o nodi meysydd sy’n addas ar gyfer NFM ochr yn ochr â dadansoddiadau eraill a wneir gan berson â chymwysterau addas.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar ddull mapio ar raddfa genedlaethol, gan ystyried data ffynhonnell agored wedi’i fodelu yn bennaf, felly dylid ystyried y mapio hwn fel un dangosol yn hytrach na phenodol. Mae'n bosibl bod gan leoliadau a nodwyd ddefnydd mwy diweddar o adeiladau neu dir nag y mae data sydd ar gael yn ei ddangos. Mae’n bwysig nodi nad yw perchnogaeth tir a newid i berygl llifogydd wedi’u hystyried.
Yn ymchwil ddiweddaraf Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) , dangoswyd bod NFM yn gweithio ar raddfeydd dalgylch hyd at 10km 2 lle mae'r gymuned sydd mewn perygl yn syth i lawr yr afon. Mae’r dalgylchoedd wedi’u hamlinellu gan ddefnyddio OpenPopGrid, amcangyfrif seiliedig ar grid o ddwysedd poblogaeth a map llifogydd dŵr wyneb Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) i nodi cymunedau bach sydd mewn perygl o lifogydd cyson.
Mae’r set ddata hon yn cynnwys dull blaenoriaethu ar gyfer nodi dalgylchoedd bach, uwchlaw cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb aml a chyrsiau dŵr bach lle gallai Rheoli Llifogydd Naturiol (RhLlN) fod yn ddull addas o leihau perygl llifogydd. Gellir defnyddio’r set ddata i gefnogi’r gwaith o nodi meysydd sy’n addas ar gyfer NFM ochr yn ochr â dadansoddiadau eraill a wneir gan berson â chymwysterau addas.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar ddull mapio ar raddfa genedlaethol, gan ystyried data ffynhonnell agored wedi’i fodelu yn bennaf, felly dylid ystyried y mapio hwn fel un dangosol yn hytrach na phenodol. Mae'n bosibl bod gan leoliadau a nodwyd ddefnydd mwy diweddar o adeiladau neu dir nag y mae data sydd ar gael yn ei ddangos. Mae’n bwysig nodi nad yw perchnogaeth tir a newid i berygl llifogydd wedi’u hystyried.
Yn ymchwil ddiweddaraf Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) , dangoswyd bod NFM yn gweithio ar raddfeydd dalgylch hyd at 10km 2 lle mae'r gymuned sydd mewn perygl yn syth i lawr yr afon. Mae’r dalgylchoedd wedi’u hamlinellu gan ddefnyddio OpenPopGrid , amcangyfrif seiliedig ar grid o ddwysedd poblogaeth a map llifogydd dŵr wyneb Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) i nodi cymunedau bach sydd mewn perygl o lifogydd cyson.Mae’r dalgylchoedd bach hyn uwchlaw’r cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd cyson yn cael eu blaenoriaethu ar sail y ganran arwynebedd o botensial NFM fel y’i nodwyd mewn dwy ffynhonnell fapio, sef mapiau ardaloedd posibl Gweithio gyda Phrosesau Naturiol (GgPN) a mapiau System Cefnogi Cynllunio Adnoddau Naturiol (SCCAN) . Crynhowyd y potensial ar gyfer y nodweddion canlynol yn y flaenoriaeth:
- Nodweddion gwanhau dŵr ffo (WwNP)
- Potensial i ailgysylltu gorlifdir (WWNP)
- Coetir Afonydd (WwNP)
- Gwelliannau ymdreiddiad ar briddoedd athraidd araf (WwNP)
- Gwrychoedd (SCCAN)
- Adfer cors (SCCAN)
- Newid cynefinoedd a gwelliannau ar gyfer mwy o garwedd arwyneb (SCCAN)
- Rheolaeth amaethyddol trwy gadw sofl gaeaf (SCCAN)
Mae’r dalgylchoedd wedi’u categoreiddio yn seiliedig ar ganran arwynebedd potensial NFM sef:
- <10%
- 10%-25%
- 25%-50%
- >50%
- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Dyddiad cyhoeddi
- 18 Chwefror 2025
- Math
- Data gofodol
- Geiriau allweddol
- Natural flood management
- Categori:
- Amgylchedd
- Rhanbarthau
- Global
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
- Grŵp
- Water and Flood Division
Gwybodaeth
- Maint gofodol
- System daflunio
- EPSG:27700
- Estyniad x0
- 179010.0
- Estyniad x1
- 353860.03125
- Estyniad y0
- 166220.0
- Estyniad y1
- 393770.03125
Nodweddion
- Cyfyngiadau
-
Dylid adolygu’r mapio hwn yn erbyn y setiau data canlynol:
Safleoedd archeolegol
- Nodweddion Amgylchedd Hanesyddol (NAH)
- Ardaloedd Tirwedd Hanesyddol (ATH)
- Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig (PGHC)
- Heneb Gofrestredig (HG) byffer 50m
- Heneb Gofrestredig
- Safle Treftadaeth y Byd (STB)
Bio-gorfforol
- Dalgylch Sensitif i Asid
- Rhestr Coetir Hynafol
- Mawn Dwfn a Mawn Dwfn wedi'i Addasu
- Ffyngau Glaswelltir
- Cynefin Posibl ar gyfer Glöynnod Byw Brith dros Redyn
- Cynefin Posibl i Fadfall Ddŵr Gribog
- Cynefin Posibl ar gyfer Adar sy'n Ddibynnol ar Dir Agored
- Cynefin â Blaenoriaeth – Sensitifrwydd Uchel
- Mosaigau Cynefin â Blaenoriaeth – Angen Ymchwilio
- Ardaloedd Gwiwerod Coch
- Safle Geoamrywiaeth Pwysig Rhanbarthol (SGPR)
- Planhigion Âr Sensitif
- Cynefin Posibl ar gyfer Llygod y Dŵr
Dynodiadau tirwedd
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
- Tir Comin Cofrestredig
- Parc Cenedlaethol
- Mynediad Agored
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Byffer 100/300m
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yr Ucheldir (AGA)
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yr Ucheldir (AGA) Byffer 500m
Amaethyddiaeth
- Dosbarthiad Tir Amaethyddol
- Pwrpas
Datblygwyd y set ddata hon i helpu i nodi dalgylchoedd sy'n addas ar gyfer Rheoli Llifogydd Naturiol.
- Ei hyd o ran amser
- Ion. 1, 2011, canol nos - Rhag. 31, 2022, canol nos
- Ansawdd y data
Mae’r data wedi deillio o:
- Asesiad Risg Llifogydd Cymru – Perygl llifogydd o Ddŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach
- OpenPopGrid
- Tir Agored OS
- Nodweddion Gwanhau Dŵr Ffo GgPN 1% AEP
- Ailgysylltu Gorlifdir GgPN
- Plannu Afonydd GgPN
- Plannu Dalgylch GgPN
- Cyfleoedd Adfer Corsydd SCCAN
- Cyfleoedd Garwedd Arwyneb SCCAN
- Cyfleoedd Rheolaeth Amaethyddol SCCAN
Dylid cyfeirio'r defnyddiwr at yr Adroddiad Technegol Blaenoriaethu Mapio ar gyfer y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r set ddata hon.
- Gwybodaeth ategol
Mae’r set ddata hon yn un o gyfres o gynhyrchion a ddatblygwyd fel rhan o Adolygiad Rheoli Llifogydd Naturiol Llywodraeth Cymru.
Mae setiau data eraill yn cynnwys:
- Blaenoriaethu ar gyfer Rheoli Llifogydd Naturiol – Dalgylchoedd Mwy
- Adroddiad Statws Rheoli Llifogydd Naturiol
I gyd-fynd â'r mapio hwn, gall y defnyddiwr hefyd gyfeirio at yr haenau ffynhonnell agored canlynol, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y flaenoriaeth hon:
- Dosbarthiad Tir Amaethyddol
- Safleoedd bio-ffisegol, safleoedd archeolegol a dynodiadau tirwedd fel y disgrifir o dan "Cyfyngiadau"
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol
Cyswllt
- E-bost
- floodcoastalrisk@gov.wales
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Adran
- Yr Is-adran Dŵr a Llifogydd
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /layers/geonode:pmfnfm_small_catchments
- Tudalen fetadata
- /layers/geonode:pmfnfm_small_catchments/metadata_detail
- GeoJSON
- Dalgylchoedd Bychain.json
- Excel
- Dalgylchoedd Bychain.excel
- CSV
- Dalgylchoedd Bychain.csv
- GML 3.1.1
- Dalgylchoedd Bychain.gml
- GML 2.0
- Dalgylchoedd Bychain.gml
- DXF
- Dalgylchoedd Bychain.dxf
- OGC Geopackage
- Dalgylchoedd Bychain.gpkg
- Zipped Shapefile
- Dalgylchoedd Bychain.zip