Ysgolion Uwchradd Gwladol Cymru.

Mae setiau data’r ysgolion wedi’u llunio o OS Addressbase, Fy Ysgol Leol a’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Categorïau Ysgolion

  • Ysgol uwchradd heb ddarpariaeth ôl-16
  • Ysgol uwchradd â darpariaeth ôl-16

Categorïau Iaith

  • Cyfrwng Cymraeg: Cymraeg yw iaith gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd. Cymraeg yw’r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â’r disgyblion ac yng ngwaith gweinyddol yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  • Dwy ffrwd: Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngwaith yr ysgol o ddydd i ddydd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  • Trosiannol: Cymraeg yw iaith gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg a Chymreig. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  • Math dwyieithog A: Caiff o leiaf 80% o’r pynciau (ar wahân i Gymraeg a Saesneg) eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl. Caiff un neu ddau bwnc eu haddysgu i rai disgyblion drwy gyfrwng y Saesneg neu’r ddwy iaith.
  • Math dwyieithog B: Caiff o leiaf 80% o’r pynciau (ar wahân i Gymraeg a Saesneg) eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond cânt eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg hefyd.
  • Math dwyieithog C: Caiff 50-79% o’r pynciau (ar wahân i Gymraeg a Saesneg) eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond cânt eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg hefyd.
  • Math dwyieithog Ch: Caiff pob pwnc (ar wahân i Gymraeg a Saesneg) eu haddysgu i bob disgybl drwy'r ddwy iaith.
  • Saesneg gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg: Mae iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd yn cael eu penderfynu gan gyd-destun ieithyddol yr ysgol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â disgyblion a rhieni, ac yng ngwaith gweinyddol yr ysgol.
  • Cyfrwng Saesneg: Saesneg yw iaith gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd, ond caiff rhywfaint o Gymraeg ei defnyddio hefyd i gyfathrebu â disgyblion. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (2)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (1)

Priodweddau (20)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
geom
uprn UPRN
school_cod Y cod ysgolion
name Enw
language Iaith
iaith Iaith
street_des Stryd
town_name Tref
locality Ardal
postcode Cod Post
status Status
statws Statws
gender Gender
rhyw Rhyw
type Type
math Math
easting Dwyrainu
northing Gogleddol
lat Lledred
lon Hydred

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg