Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
geom | ||
area_km2 | ||
name | Name | |
enw | Enw | |
sector_policy | Polisi'r Sector | |
sector_policy_verbose_en | Sector Policy Description | |
sector_policy_verbose_cy | Disgrifiad Polisi'r Sector | |
caveat_en | Caveat | |
caveat_cy | Cafeat |
Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer Ynni Ffrwd Lanw
Llywodraeth Cymru
Mae’r haen hon yn dangos Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer Ynni Ffrwd Lanw. Mae polisi diogelu adnoddau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cael ei gymhwyso i Ardaloedd Adnoddau Strategol. Nod hyn yw sicrhau nad yw datblygiad newydd gan sectorau eraill yn rhwystro'r potensial – mewn ffordd amhriodol a heb ystyriaeth ofalus – i'r sector ynni ffrwd lanw gyflwyno ceisiadau yn y dyfodol am ganiatâd i leoli gweithgarwch yn yr ardaloedd hyn.
Nid yw nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol yn golygu y byddai datblygiad yn yr ardaloedd hyn yn cael ei gefnogi. Bydd angen o hyd i bob datblygwr wneud cais am ganiatâd perthnasol a chydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol yn y ffordd arferol.
Mae’r haen hon yn deillio o'r Ardal Adnoddau Ynni Ffrwd Lanw, yn dilyn gwaith a wnaed gan ABPmer i fireinio’r Ardal Adnoddau Ynni Ffrwd Lanw er mwyn adlewyrchu cyfyngiadau technegol (e.e. dyfnder dwr) a chyfyngiadau caled (ffactorau neu weithgareddau, fel y seilwaith presennol, a fyddai'n atal yn realistig ddatblygiad). Mae ABPmer hefyd wedi cael gwared ar unrhyw ardaloedd mân tameidiog sy’n llai na 2km2. Mae Llywodraeth Cymru wedyn wedi gwneud rhagor o welliannau i'r ardal: i eithrio ardaloedd y tu allan i’r Terfyn Tiriogaethol o 12 milltir forol, neu o fewn 500m i’r marc penllanw cymedrig; ac i symleiddio ffiniau'r ardal. Canlyniad hyn yw pedair Ardal Adnoddau Strategol: Ynys Môn, Pen Llyn, Sir Benfro, a De Cymru.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (3)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (9)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Cefnforoedd
- Dyddiad addasu:
- 14 Ionawr 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol