Mae Ardal Adnoddau amrediad y llanw yn dangos dosbarthiad gofodol adnoddau naturiol sydd, o ran dichonoldeb technegol (dyfnder dŵr ac amrediad llanw) yn unig, â photensial i gefnogi gweithgarwch y sector. Nid yw mewn unrhyw ffordd yn nodi unrhyw briodoldeb o weithgarwch posibl yn y sector o fewn yr ardaloedd hyn. Mae Ardal Adnoddau amrediad y llanw yn seiliedig ar ddyfnder uchaf o 25m islaw datwm siart a chymedr amrediad gorllanw o fwy na 6m. Diffiniwyd Ardal Adnoddau amrediad y llanw gan ddefnyddio data amrediad y llanw o Atlas of UK Marine Renewable Energy Resources (ABPmer, 2008) a data bathymetreg o OceanWise Marine Themes Digital Elevation Model (DEM) (OceanWise, 2014). Cafodd yr Ardal Adnodd ei ymestyn neu docio (fel y bo'n briodol) er mwyn cwrdd â’r marc penllanw cymedrig (wedi eu diffinio gan set data Ordnance Survey Boundary-line ym mis Mai 2022).

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (2)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (3)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
geom
resource Resource
adnodd Adnodd

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol