Adnabod
- Teitl
- Coed y tu Allan i Goetiroedd
- Crynodeb
Yn set ddata Coed y tu Allan i Goetiroedd (CAG) ar gyfer Cymru mae nodweddion polygon sy’n cynrychioli’r gorchudd canopi coed sydd y tu allan i goetiroedd Rhestr y Goedwig Genedlaethol (RhGG). Mae gan y nodweddion a gynhwyswyd isafswm o frig canopi coed uwch na 3m ac arwynebedd o fwy na 5m2. Mae maint y canopi wedyn yn cael ei fesur i lawr i 1.3m uwchlaw’r ddaear. Fe all fod arwynebeddau o ganopi coed sy’n cydgyffwrdd mwy na 0.5 hectar o fewn y set ddata CAG hon os nad ydynt yn cwrdd â’r holl baramedrau ar gyfer eu cynnwys yn RhGG. Fodd bynnag, ar gyfer arwynebeddau o goetir mwy na 0.5 hectar, dylid defnyddio RhGG.
Cynhyrchwyd polygonau canopi o leiniau di-dor a echdynnwyd o Fodelau Uchder Canopi (MUC) a gafwyd o Arolwg LiDAR Cymru. Mae pob polygon yn cynnwys priodoleddau arwynebedd a weithiwyd allan, math dosbarthiad coetir, a metrigau uchder cysylltiedig. Mae polygonau canopi wedi eu his-rannu ymhellach i bolygonau dosbarth-uchder cysylltiedig. Crëwyd y data hyn gan ‘Dîm Synhwyro o Bell’ Forest Research, ym mis Chwefror 2026.
I nodi: I wella perfformiad lluniadu, dim ond pan fyddwch wedi chwyddo i 1:100,000 neu’n agosach y bydd y data’n weladwy.
Ceir dosbarthiadau o fathau o goetir trwy ddefnyddio algorithm gofodol seiliedig ar reolau, sydd yn gwerthuso’r canlynol:
- Nifer brig coed unigol a ganfuwyd ym mholygon pob canopi;
- Arwynebedd y polygon; a
- Geometreg y polygon (e.e., ei grynrwydd).
Defnyddir y paramedrau hyn i neilltuo pob nodwedd i un o bedwar dosbarth o fath o goetir:
- Coeden Unigol – Coed unigol, a ddangosir fel ardaloedd bach o ganopi, ar wahân, fel arfer gyda brig un goeden ynddynt.
- Grwpiau o Goed – Clystyrau bach o goed yn tyfu’n agos at ei gilydd o fewn yr un llain canopi.
- Coetir Bach – Ardaloedd mwy, di-dor o goed sy’n cwrdd ag isafswm maint neu nifer o goed.
- Canopi Drosgrog (CD RhGG) – Ardaloedd o goed sy’n crogi dros goetir Rhestr y Goedwig Genedlaethol neu sydd nesaf atynt.
Dosbarthiadau Uchder
Mae polygonau canopi yn cael eu gosod fesul haen mewn dosbarthiadau uchder ar sail metrigau uchder canopi a gafwyd. Dyma’r biniau uchder a ddiffiniwyd:
- Dosbarth 3: 1.3 m – <10 m
- Dosbarth 10: 10 m – <15 m
- Dosbarth 15: 15 m – <20 m
- Dosbarth 20: 20 m – <30 m
- Dosbarth 30: ≥30 m
Trwy ddefnyddio’r dosbarthiadau hyn, gellir dadansoddi strwythur y canopi a’i ddosbarthiad fertigol mewn modd strwythuredig.
- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Dyddiad cyhoeddi
- 13 Mawrth 2026
- Math
- Data gofodol
- Geiriau allweddol
- TOW
- Categori:
- Amgylchedd
- Rhanbarthau
- Global, Europe, United Kingdom
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
- Grŵp
- Land Nature Food
Gwybodaeth
- Maint gofodol
- System daflunio
- EPSG:27700
- Estyniad x0
- 170175.0
- Estyniad x1
- 355280.75
- Estyniad y0
- 164634.84375
- Estyniad y1
- 395015.0625
Nodweddion
- Rhifyn
- 1
- Ansawdd y data
Crëwyd Model Uchder Canopi (MUC) trwy ddefnyddio Model Arwyneb Digidol (MAD) a Model Tir Digidol (MTD).
Yna masgiwyd y MUC, i greu Model Gwrthrych Llystyfiant (MGLl), trwy ddefnyddio sawl set ddata oedd ar gael i FR. Mae’r cam hwn yn tynnu nodweddion nad ydynt yn llystyfiant allan o’r ddelwedd.
Mae Coetiroedd presennol RhGG hefyd yn cael eu tynnu allan yn ystod y cam hwn.
Yna gwnaed darluniad o’r canopi, er mwyn creu’r polygonau Coed y tu allan i Goetiroedd. Holltwyd y canopi hwn wedyn yn finiau uchder a neilltuwyd priodweddau.
Prosesu Data a Nodiadau Ychwanegol
- Gadawyd nodweddion canopi gydag arwynebedd o lai na 5 m² allan o’r set ddata.
- Cymhwyswyd algorithm canfod brig coed i’r MUC, gydag isafswm trothwy uchder brig y goeden o 3 m. O’r herwydd, eithriwyd unrhyw bolygonau gydag uchafswm uchder canopi llai na 3 m o’r set ddata.
- Defnyddiwyd map Rhestr y Goedwig Genedlaethol 2024 i dynnu ardaloedd o goetir RhGG o set ddata CAG.
- Is-rannwyd polygonau coetiroedd bach ymhellach yn grwpiau o goed pan nodwyd hwy fel trefniadau tenau, llinellol, oedd yn rhoi darlun mwy manwl gywir o union strwythur y canopi.
- Ni ddylid cynnwys arwynebeddau’r canopi drosgrog (CD RhGG) mewn ystadegau arferol am goedwigoedd, ond gellir eu cynnwys wrth ystyried cyfanswm arwynebedd canopi coed ledled Cymru.
- Gwybodaeth ategol
Disgrifiad Enw Priodoli
Dynodwr coed y tu allan i goetiroedd (uned: D/G): Dynodwr unigryw ar gyfer pob polygon canopi CAG. Mae ôl-ddodiad yr ID yn cyfateb i enw teil y grid 1 km Prydeinig.
Arwynebedd coed y tu allan i goetiroedd (uned: m2): Arwynebedd polygon y canopi.
Math o_Goetir (uned: D/G): Dosbarthiad coetir: Coeden Unigol, Grŵp o Goed, Coetir Bach, neu CD RhGG.
Dosbarth_Uchder (uned: D/G): Bin dosbarth uchder.
Arwynebedd_Bin (uned: m2): Arwynebedd polygon dosbarth uchder.
Isafswm_Uchder (uned: m): Isafswm uchder o fewn y bin uchder.
Uchafswm_Uchder (uned: m): Uchafswm uchder o fewn y bin uchder.
Uchder_Cymedrig (uned: m): Uchder cymedrig o fewn y bin uchder.
Uchder_gwyriad_safonol (uned: m): Gwyriad safonol uchderau o fewn y bin uchder.
Dynodwr_amneidiol (uned: D/G): Dynodwr ar gyfer polygonau lluosog bin uchder o fewn polygon canopi.
Blwyddyn _Canfod goleuni ac anelu (LiDAR) (uned: D/G): Blwyddyn y cafwyd y LiDAR.
Dyddiad _Canfod goleuni ac anelu (LiDAR) (uned: D/G): Dyddiad y cafwyd y LiDAR.
Grid_Prydeinig (uned: D/G): Cyfeirnod Grid Prydeinig am y sgwâr 1 km y lleolir y polygon ynddo.
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol
Cyswllt
- E-bost
- data@gov.wales
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Adran
- land nature food
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /layers/geonode:tow_wales
- Tudalen fetadata
- /layers/geonode:tow_wales/metadata_detail
- OGC Geopackage
- Coed y tu Allan i Goetiroedd.gpkg