| Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |

| tow_id | Dynodwr coed y tu allan i goetiroedd | |
| tow_area | Arwynebedd coed y tu allan i goetiroedd (m2) | |
| woodland_type | Woodland type | |
| height_class | Dosbarth Uchder | |
| bin_area | Arwynebedd Bin | |
| min_height | Isafswm Uchder | |
| max_height | Uchafswm Uchder | |
| mean_height | Uchder Cymedrig | |
| stdv_height | Uchder gwyriad safonol | |
| sub_id | Dynodwr amneidiol | |
| lidar_year | Blwyddyn Canfod goleuni ac anelu | |
| lidar_date | Dyddiad Canfod goleuni ac anelu | |
| british_gr | Grid Prydeinig | |
| type_and_height | ||
| math_o_goedwig | Math o goedwig | |
| geom |
Coed y tu Allan i Goetiroedd
Llywodraeth Cymru
Yn set ddata Coed y tu Allan i Goetiroedd (CAG) ar gyfer Cymru mae nodweddion polygon sy’n cynrychioli’r gorchudd canopi coed sydd y tu allan i goetiroedd Rhestr y Goedwig Genedlaethol (RhGG). Mae gan y nodweddion a gynhwyswyd isafswm o frig canopi coed uwch na 3m ac arwynebedd o fwy na 5m2. Mae maint y canopi wedyn yn cael ei fesur i lawr i 1.3m uwchlaw’r ddaear. Fe all fod arwynebeddau o ganopi coed sy’n cydgyffwrdd mwy na 0.5 hectar o fewn y set ddata CAG hon os nad ydynt yn cwrdd â’r holl baramedrau ar gyfer eu cynnwys yn RhGG. Fodd bynnag, ar gyfer arwynebeddau o goetir mwy na 0.5 hectar, dylid defnyddio RhGG.
Cynhyrchwyd polygonau canopi o leiniau di-dor a echdynnwyd o Fodelau Uchder Canopi (MUC) a gafwyd o Arolwg LiDAR Cymru. Mae pob polygon yn cynnwys priodoleddau arwynebedd a weithiwyd allan, math dosbarthiad coetir, a metrigau uchder cysylltiedig. Mae polygonau canopi wedi eu his-rannu ymhellach i bolygonau dosbarth-uchder cysylltiedig. Crëwyd y data hyn gan ‘Dîm Synhwyro o Bell’ Forest Research, ym mis Chwefror 2026.
I nodi: I wella perfformiad lluniadu, dim ond pan fyddwch wedi chwyddo i 1:100,000 neu’n agosach y bydd y data’n weladwy.
Ceir dosbarthiadau o fathau o goetir trwy ddefnyddio algorithm gofodol seiliedig ar reolau, sydd yn gwerthuso’r canlynol:
- Nifer brig coed unigol a ganfuwyd ym mholygon pob canopi;
- Arwynebedd y polygon; a
- Geometreg y polygon (e.e., ei grynrwydd).
Defnyddir y paramedrau hyn i neilltuo pob nodwedd i un o bedwar dosbarth o fath o goetir:
- Coeden Unigol – Coed unigol, a ddangosir fel ardaloedd bach o ganopi, ar wahân, fel arfer gyda brig un goeden ynddynt.
- Grwpiau o Goed – Clystyrau bach o goed yn tyfu’n agos at ei gilydd o fewn yr un llain canopi.
- Coetir Bach – Ardaloedd mwy, di-dor o goed sy’n cwrdd ag isafswm maint neu nifer o goed.
- Canopi Drosgrog (CD RhGG) – Ardaloedd o goed sy’n crogi dros goetir Rhestr y Goedwig Genedlaethol neu sydd nesaf atynt.
Dosbarthiadau Uchder
Mae polygonau canopi yn cael eu gosod fesul haen mewn dosbarthiadau uchder ar sail metrigau uchder canopi a gafwyd. Dyma’r biniau uchder a ddiffiniwyd:
- Dosbarth 3: 1.3 m – <10 m
- Dosbarth 10: 10 m – <15 m
- Dosbarth 15: 15 m – <20 m
- Dosbarth 20: 20 m – <30 m
- Dosbarth 30: ≥30 m
Trwy ddefnyddio’r dosbarthiadau hyn, gellir dadansoddi strwythur y canopi a’i ddosbarthiad fertigol mewn modd strwythuredig.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (16)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 13 Mawrth 2026
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- TOW
- Pwynt cyswllt:
- data@gov.wales
- Rhifyn
- 1
- Iaith
- Saesneg
- Ansawdd y data

Crëwyd Model Uchder Canopi (MUC) trwy ddefnyddio Model Arwyneb Digidol (MAD) a Model Tir Digidol (MTD).

Yna masgiwyd y MUC, i greu Model Gwrthrych Llystyfiant (MGLl), trwy ddefnyddio sawl set ddata oedd ar gael i FR. Mae’r cam hwn yn tynnu nodweddion nad ydynt yn llystyfiant allan o’r ddelwedd.

Mae Coetiroedd presennol RhGG hefyd yn cael eu tynnu allan yn ystod y cam hwn.

Yna gwnaed darluniad o’r canopi, er mwyn creu’r polygonau Coed y tu allan i Goetiroedd. Holltwyd y canopi hwn wedyn yn finiau uchder a neilltuwyd priodweddau.

Prosesu Data a Nodiadau Ychwanegol

Gadawyd nodweddion canopi gydag arwynebedd o lai na 5 m² allan o’r set ddata.

Cymhwyswyd algorithm canfod brig coed i’r MUC, gydag isafswm trothwy uchder brig y goeden o 3 m. O’r herwydd, eithriwyd unrhyw bolygonau gydag uchafswm uchder canopi llai na 3 m o’r set ddata.

Defnyddiwyd map Rhestr y Goedwig Genedlaethol 2024 i dynnu ardaloedd o goetir RhGG o set ddata CAG.

Is-rannwyd polygonau coetiroedd bach ymhellach yn grwpiau o goed pan nodwyd hwy fel trefniadau tenau, llinellol, oedd yn rhoi darlun mwy manwl gywir o union strwythur y canopi.

Ni ddylid cynnwys arwynebeddau’r canopi drosgrog (CD RhGG) mewn ystadegau arferol am goedwigoedd, ond gellir eu cynnwys wrth ystyried cyfanswm arwynebedd canopi coed ledled Cymru.

- Gwybodaeth ategol

Disgrifiad Enw Priodoli

Dynodwr coed y tu allan i goetiroedd (uned: D/G): Dynodwr unigryw ar gyfer pob polygon canopi CAG. Mae &ocir…- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol