Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
name | Name | |
enw | Enw | |
fid | ||
geom |
Ardaloedd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn awdurdod cynllun morol ac mae'n gyfrifol am baratoi cynlluniau morol ar gyfer Cymru. Mae ardal y cynllun morol yng Nghymru yn cynnwys rhanbarthau cynllunio morol ar y glannau ac ar y môr. Mae rhanbarth y glannau yn ymestyn o benllanw cymedrig y gorllanw (MHWS) i derfyn 12 milltir fôr (12 nm) o fôr tiriogaethol y DU, a'r rhanbarth alltraeth o derfyn 12nm o fôr tiriogaethol y DU hyd at derfyn parth Cymru.
Daw y llanw i mewn (a chyrraedd tir) uchaf yn ystod cyfnodau'r gorllanw a defnyddir lefel penllanw cymedrig y gorllanw (MHWS) fel arfer i ddisgrifio terfynau ardal y môr. Nid yw MHWS wedi'u diffinio. Gellir defnyddio'r map presennol sy'n seiliedig ar OS fel canllaw cyffredinol ac mae'n dangos Terfynau Llanw Arferol (NTL) sef y pwynt cyfartalog y mae llif y llanw i mewn ac allan yn effeithio ar gorff o ddwr. Bydd MHWS yn ymestyn ymhellach i'r lan na hyn yn dibynnu ar oleddf y tir. Gall MHWS fod ymhellach i fyny'r afon na'r pwynt hwn yn dibynnu ar bresenoldeb rhwystrau, megis coredau, a allai rwystro llif llanw pellach ar lanw cyfartalog ond sy'n gorlifo ar lanw mwy.
Gall trwyddedu morol CNC roi cyngor ar leoliad MHWS ar gyfer ceisiadau am drwyddedau morol.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (10)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (4)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Cefnforoedd
- Dyddiad addasu:
- 16 Mai 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg