Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
objectid | ||
peatlands | ||
hectares | ||
layer | ||
shape_length | ||
shape_area | ||
geom |
Map Cyfleoedd Coetir - Mawn Dwfn
Llywodraeth Cymru
Mae mawn dwfn yn adnodd pwysig yng Nghymru ar gyfer storio carbon, yn cyfrannu at reoli llif dŵr a chefnogi cynefinoedd arbenigol. Mae o dan fygythiad oherwydd newid hinsawdd a thechnegau rheoli tir gan gynnwys trin y tir a draenio. Mae Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) yn ei gwneud yn ofynnol na ddylid creu coetiroedd ar briddoedd gyda mawn sy'n fwy na 50cm o ddyfnder neu'n unol â Chanllawiau Gwlad. Mae'n rhaid tynnu ardaloedd o fawn dwfn o'r fath o gynigion creu coetiroedd.
Mae map 'Mawndiroedd Cymru' (2022) yn nodi dosbarthiad diweddar o fawn ledled Cymru. Mae'n ffurfio rhan o gyfres o fapiau mawndir, gan gynnwys sgôr tystiolaeth mawn ac amcangyfrif o stociau carbon a ddangosir ar Fap Data Cymru. Crëwyd yr haenau data ar grid 50m lle esboniwyd presenoldeb mawn o amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer pob cell grid 50m ledled Cymru. Rhoddir sgôr tystiolaeth i bob cell grid, sy'n diffinio lefel yr hyder o safbwynt presenoldeb mawn. Mae'r set ddata hon yn darparu amlinelliad o'r holl gelloedd grid 50m sydd â sgôr tystiolaeth mawndir o 2 neu fwy.
Cyflwynir manylion llawn y ffynonellau data a ddefnyddiwyd i adeiladu'r map hwn yn ogystal â'r methodolegau a ddefnyddiwyd i ddiffinio lefel y dystiolaeth o safbwynt presenoldeb mawn yn adroddiad methodoleg mapio mawndiroedd Cymru.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (1)
Priodweddau (7)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 19 Chwefror 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@gov.wales
- Pwrpas
<p>Mae’r set ddata hon wedi’i chreu ar gyfer y Map Cyfleoedd Coetir (WOM) yn unig, ac efallai nad yw’n adlewyrchu&rs…
- Iaith
- Saesneg
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol