Adnabod

Teitl
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig
Crynodeb

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn ffurfio cofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae llawer ohonynt yn cynnig gwerth cadwraeth eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Fel ffynhonnell bleser a dysgu, a rhwydwaith gwerthfawr o fannau gwyrdd, mae gan ein parciau a’n gerddi hanesyddol ran bwysig i’w chwarae er mwyn creu Cymru sy’n fwy iach a gwyrdd.

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn adnodd bregus a chyfyngedig ac mae’n hawdd eu difrodi neu eu colli. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac annog y rhai sy’n gyfrifol am eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr ac unigryw. Diolch i’w gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r parciau hanesyddol a’r gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae cofrestru’n nodi safleoedd sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig i Gymru. Lluniwyd y Gofrestr er mwyn cynorthwyo cadwraeth wybodus parciau a gerddi hanesyddol gan berchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy. Mae Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i Weinidogion Cymru, drwy Cadw, lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae safleoedd ar y Gofrestr statudol yn parhau i fod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o reoli datblygiad.

Mae'r gofrestr yn statudol o 2021 ymlaen a gellir ychwanegu (neu ddileu) safleoedd ar unrhyw adeg. Ar hyn o bryd mae bron i 400 o safleoedd ar y Gofrestr. Y nod yw atal difrod i nodweddion arwyddocaol y safleoedd, megis y dyluniad hanesyddol, adeiladwaith, nodweddion adeiledig ac elfennau wedi'u plannu. Yn aml iawn, byddai plannu coed yn fuddiol ac yn gwella cymeriad parcdir. Fodd bynnag, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth briodol i arwyddocâd y safle, ei gymeriad hanesyddol, ei ddyluniad a'i olygfeydd ac ati i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer creu coetir ac i lywio cynlluniau plannu coetir. Ceir manylion cyswllt yn GN002.

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Math
Data gofodol
Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Land Nature Food

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
174963.828125
Estyniad x1
353982.8125
Estyniad y0
166135.671875
Estyniad y1
393499.59375

Nodweddion

Pwrpas

<p>Mae&rsquo;r set ddata hon wedi&rsquo;i chreu ar gyfer y Map Cyfleoedd Coetir (WOM) yn unig, ac efallai nad yw&rsquo;n adlewyrchu&rs…

Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol

Cyswllt

E-bost
data@gov.wales
Sefydliad
Llywodraeth Cymru
Adran
land nature food

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layers/geonode:wom_registered_historic_parks_and_garden
Tudalen fetadata
/layers/geonode:wom_registered_historic_parks_and_garden/metadata_detail

GeoJSON
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.json
Excel
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.excel
CSV
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.csv
GML 3.1.1
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.gml
GML 2.0
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.gml
DXF
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.dxf
OGC Geopackage
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.gpkg
Zipped Shapefile
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig.zip

Diweddbwyntiau OWS

WMS
WFS