Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn ffurfio cofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae llawer ohonynt yn cynnig gwerth cadwraeth eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Fel ffynhonnell bleser a dysgu, a rhwydwaith gwerthfawr o fannau gwyrdd, mae gan ein parciau a’n gerddi hanesyddol ran bwysig i’w chwarae er mwyn creu Cymru sy’n fwy iach a gwyrdd.

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn adnodd bregus a chyfyngedig ac mae’n hawdd eu difrodi neu eu colli. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac annog y rhai sy’n gyfrifol am eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr ac unigryw. Diolch i’w gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r parciau hanesyddol a’r gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae cofrestru’n nodi safleoedd sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig i Gymru. Lluniwyd y Gofrestr er mwyn cynorthwyo cadwraeth wybodus parciau a gerddi hanesyddol gan berchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy. Mae Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i Weinidogion Cymru, drwy Cadw, lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae safleoedd ar y Gofrestr statudol yn parhau i fod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o reoli datblygiad.

Mae'r gofrestr yn statudol o 2021 ymlaen a gellir ychwanegu (neu ddileu) safleoedd ar unrhyw adeg. Ar hyn o bryd mae bron i 400 o safleoedd ar y Gofrestr. Y nod yw atal difrod i nodweddion arwyddocaol y safleoedd, megis y dyluniad hanesyddol, adeiladwaith, nodweddion adeiledig ac elfennau wedi'u plannu. Yn aml iawn, byddai plannu coed yn fuddiol ac yn gwella cymeriad parcdir. Fodd bynnag, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth briodol i arwyddocâd y safle, ei gymeriad hanesyddol, ei ddyluniad a'i olygfeydd ac ati i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer creu coetir ac i lywio cynlluniau plannu coetir. Ceir manylion cyswllt yn GN002.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (1)

Priodweddau (18)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
reference_
site_name_
site_name0
designatio
main_phase
main_phas0
site_type_
site_type0
la_en
la_cy
community
report_en
report_cy
grade_grad
shape_length
shape_area
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Pwrpas

<p>Mae&rsquo;r set ddata hon wedi&rsquo;i chreu ar gyfer y Map Cyfleoedd Coetir (WOM) yn unig, ac efallai nad yw&rsquo;n adlewyrchu&rs…

Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol