Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
objectid | ||
grid_code | ||
shape_length | ||
shape_area | ||
geom |
Map Cyfleoedd Coetir - Lliniaru Llifogydd
Llywodraeth Cymru
Mae’r haen hon yn dangos lle gallai creu coetir liniaru llifogydd. Daw’r haen ddata hon o “Gweithio gyda Phrosesau Naturiol” (WWNP) – rhaglen ymchwil o dan arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd mewn cydweithrediad â Defra, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru. Amcan y rhaglen yw diogelu, adfer ac efelychu swyddogaethau naturiol dalgylchoedd, gorlifdiroedd, afonydd a’r arfordir. Fel rhan o’r rhaglen, cynhyrchwyd set o fapiau sy’n dangos lle gallai prosesau naturiol gyfrannu at leihau’r perygl o lifogydd. Yng Nghymru, roedd y set yn cynnwys set ddata o goetir yn cynnwys: • Coetir ar orlifdir. • Coetir ar lan afonydd. • Coetir yn y dalgylch ehangach Mae’r data sydd wedi’i fodelu yn rhoi darlun syml o’r ardaloedd plannu targed ond heb ystyried nodweddion cymhleth y dalgylch. Gellir ei ddefnyddio i roi haen sgorio. Er y gallai gwahanol fathau o goetir gynnig hierarchaeth sgorio bosibl, byddai’n ddibynnol iawn ar nifer o feini prawf o ran y safle a’r cynnig unigol. Felly nid ydym wedi darparu hierarchaeth sgorio. Mae’r sgôr yn seiliedig ar a yw’r safle dan sylw mewn ardal liniaru neu beidio. Bydd tir â sgôr o 0 heb unrhyw botensial i liniaru llifogydd; bydd tir â sgôr o 5 â photensial da i liniaru llifogydd.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (1)
Priodweddau (5)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 18 Chwefror 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@gov.wales
- Iaith
- Saesneg
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data grid i gynrychioli data daearyddol