Mae’r set ddata ofodol hon yn cynnwys ffiniau digidol dynodiad tirwedd statudol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau) yng Nghymru. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddyletswydd gyfreithiol i gynnal ffiniau AHNEau a sicrhau eu bod ar gael.

Yn dilyn argymhellion o adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn 2024 cafodd AHNE eu hailfrandio fel Tirweddau Cenedlaethol. Mae'r ddau enw, AHNE a Thirweddau Cenedlaethol, yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yw'r enw cyfreithiol ar y dynodiad statudol hwn o hyd.

Mae AHNEau yn cael eu dynodi at ddiben gwarchod a gwella harddwch naturiol ac maent yn wahanol i Barciau Cenedlaethol gan nad oes ganddynt gylch gwaith hamdden. Rheolir AHNEau gan eu Hawdurdodau Lleol cyfansoddol.

CNC yw’r awdurdod dynodi i greu unrhyw AHNE newydd yng Nghymru neu amrywiadau i ffiniau’r rhai presennol, fodd bynnag rhaid i Weinidogion Cymru gadarnhau’r rhain. Mae pwerau statudol CNC yn deillio o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad (NPAC) 1949 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Byddai unrhyw AHNE newydd a ddynodir gan CNC bellach o dan bwerau sy’n deillio o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Mae pum AHNE wedi’u dynodi yng Nghymru: Gŵyr (1956) oedd yr AHNE gyntaf i gael ei dynodi yng Nghymru a Lloegr, Llŷn (1957), Ynys Môn (1967) a Dyffryn Gwy (1971), sy’n pontio’r ffin â Lloegr. Dynodwyd AHNE Bryniau Clwyd yn 1985 a chafodd ei hymestyn gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru fel ydoedd ar y pryd (un o’r sefydliadau a ragflaenodd CNC) yn 2011.

Mae’r data wedi’i gadw’n ddigidol ers canol y 1990au. Mae’r ffin wedi’i throsglwyddo i OS MasterMap gan CNC ac wedi bod yn destun gwirio ar y cyd gan staff CNC a staff yr Awdurdod Lleol perthnasol.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444  . Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (13)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
AONB_NAME
ISIS_ID
DESIG_DATE
AREA_HA
Last_Edit
Creator_id
Checked
Centre_X
Centre_Y
OSMM_date
METADATA
GlobalID
fme_geometry

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, NRW_AONB
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg