Mae'r set ddata ofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl) yng Nghymru. Mae gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu sefydlu a'u rheoli gan awdurdodau lleol, yn dilyn ymgynghoriad â hyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Er mwyn i safle gael ei dynodi'n Warchodfa Natur Leol rhaid bod ganddi nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i'r ardal leol ac mae'n rhaid i'r awdurdod naill ai fod â hawl gyfreithiol ar y tir neu gytundeb gyda'r perchennog i reoli'r tir fel gwarchodfa. Mae GNLl yn fuddiol nid yn unig er mwyn diogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt ond hefyd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth pobl o'u hamgylchedd. Maent yn lleoedd lle gall plant ddysgu am natur, ac maent wedi'u lleoli mewn neu gerllaw ardaloedd trefol yn aml. Gweler Deddf Cefn Gwlad 1949 am y rhesymau dros y dynodiad gwreiddiol. Mae dyfodiad y System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a'i defnydd gan adrannau'r llywodraeth a chwmnau masnachol i ddefnyddio'r data fel hyn, yn gwella amddiffyniad y safleoedd hyn ac effeithlonrwydd y broses o wneud penderfyniadau. Dynodwyd y Gwarchodfeydd Natur Lleol dros nifer o flynyddoedd, o 1970 hyd heddiw, ac mae hyn yn parhau.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (14)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
lnr_name
isis_id
authority
desig_data
cart_area
spher_area
last_edit
centre_x
centre_y
metadata
geom
globalid
id

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, NRW_LNR
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg