Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn darparu ar gyfer mynediad cyhoeddus ar droed i fathau penodol o dir, yn diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus, yn cynyddu mesurau ar gyfer rheoli a gwarchod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn cryfhau deddfwriaeth gorfodi bywyd gwyllt, wrth ddarparu ar gyfer gwell rheolaeth ar Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Mae Tir Agored 2014 wedi ei ddigido i MasterMap AO. Roedd y data hwn yn rhan o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Wrth ddefnyddio'r data hwn ar gyfer Mynediad Agored, dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Thir Comin Cofrestredig, Tir Mynediad Statudol Arall a Choedwigoedd Cyhoeddus. Mae Tir Comin Cofrestredig yn gopi ffyddlon o dir comin Awdurdodau Lleol.

Cafodd Tir Agored ei ddigido i Landline AO yn wreiddiol gan ddefnyddio data Cam 1 rhwng 2000 a 2001. Yna aeth Tir Agored trwy Raglen Gwella Cywirdeb Lleoliad (PAI) i gyd-fynd â'r cynnyrch MasterMap AO newydd. Yn adolygiad 10 mlynedd y prosiect Mynediad Agored gwnaed newidiadau trwy ymgynghori â'r cyhoedd. Mae'r data hwn yn cael ei reoli a'i gadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (4)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
OBJECTID
EN_STATUS
AREA_HA
fme_geometry

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Cymdeithas

Nodweddion cymdeithas a diwylliannau. Enghreifftiau: aneddiadau, anthropoleg, archeoleg, addysg, credoau, moesau ac arferion traddodiadol, data demograffig, ardaloedd hamdden a gweithgareddau, asesiadau effaith gymdeithasol, trosedd a chyfiawnder, gwybodaeth cyfrifiad

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, NRW_OPEN_COUNTRY_2014
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg