Adnabod

Teitl
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Tech…
Crynodeb

Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi polisi cynllunio cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’n dangos sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar raddfa’r perygl o lifogydd dros y ganrif nesaf ac yn nodi graddfa bosibl llifogydd gan dybio nad oes amddiffynfeydd yn eu lle.

Mae hefyd yn nodi ardaloedd sydd mewn perygl o erydu arfordirol, ardaloedd sydd wedi gorlifo yn y gorffennol, a gwybodaeth allweddol am leoliad seilwaith amddiffyn rhag llifogydd.

Defnyddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel offeryn sgrinio gan awdurdodau lleol i ddeall ble y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i lywio asesiadau canlyniadau llifogydd sy’n benodol i safleoedd.

Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cynnwys haen o’r enw parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.  Mae hyn yn dangos ardaloedd sy’n elwa o amddiffynfeydd llifogydd a reolir ac a gynhelir gan yr awdurdod rheoli risg, gyda’r safon amddiffyn gofynnol ganlynol:

  • 1 ym mhob 100 mlynedd (heddiw) ar gyfer afonydd
  • 1 ym mhob 200 mlynedd (heddiw) ar gyfer y môr

Ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd a adeiladwyd o 2016 ymlaen, rhaid caniatáu ar gyfer newid hinsawdd a rhaid mapio bwrdd rhydd dylunio fel parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15. Nid oes rhaid i amddiffynfeydd a adeiladwyd cyn 2016 gynnwys newid hinsawdd / bwrdd rhydd i fod yn gymwys fel parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15, ond maent yn dal i gynnig safon amddiffyn dda heddiw.

Mae’r safon amddiffyn yn cynrychioli’r amcangyfrif gorau ar sail y data asesu diweddaraf. Mewn rhai achosion, gall hyn fod sawl blwydd oed. Mae’n debyg y bydd angen i chi ailasesu hyn fel rhan o unrhyw asesiad canlyniadau llifogydd a gyflwynir i ategu cynnig datblygu. Efallai y bydd angen modelu hydrolig hefyd i bennu eu safon amddiffyn gyfredol.

Caiff parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 eu creu ar gyfer ffynonellau llifogydd unigol (h.y. afonydd neu’r môr). Nid oes parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Mae parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 yn galluogi awdurdodau cynllunio i ystyried datblygu mewn ardaloedd a allai fel arall gael eu mapio fel parth llifogydd 3 / parth llifogydd 2 a allai gyfyngu ar gyfleoedd i ddatblygu. 

Ni ddylid eu hystyried yn addas ar gyfer eu datblygu yn awtomatig. Rhaid dangos y risgiau a’r effeithiau, gan gynnwys asesiad o ddifrod, drwy asesiad canlyniadau llifogydd i benderfynu a ellir peri bod datblygiad yn rhydd rhag llifogydd ac yn ddiogel am weddill ei oes.

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Math
Data gofodol
Geiriau allweddol
features, flood map for planning, tan 15 defended zones
Categori:
Cynllunio Cadastre

Gwybodaeth a ddefnyddir ar gyfer camau priodol ar gyfer defnyddio'r tir yn y dyfodol. Enghreifftiau: mapiau defnydd tir, mapiau parthau, arolygon syfrdanol, perchnogaeth tir

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
195233.999999125
Estyniad x1
353874.12
Estyniad y0
167164.274299639
Estyniad y1
385224.509999747

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
opendata@naturalresourceswales.gov.uk
Sefydliad
Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layers/inspire-nrw:NRW_TAN15_DEFENDED_ZONES
Tudalen fetadata
/layers/inspire-nrw:NRW_TAN15_DEFENDED_ZONES/metadata_detail

GeoJSON
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.json
Excel
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.excel
CSV
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.csv
GML 3.1.1
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.gml
GML 2.0
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.gml
DXF
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.dxf
OGC Geopackage
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.gpkg
Zipped Shapefile
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.zip

Diweddbwyntiau OWS

WMS
/capabilities/layer/2065/?ows_service=wms
WFS
/capabilities/layer/2065/?ows_service=wfs