Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi polisi cynllunio cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’n dangos sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar raddfa’r perygl o lifogydd dros y ganrif nesaf ac yn nodi graddfa bosibl llifogydd gan dybio nad oes amddiffynfeydd yn eu lle.

Mae hefyd yn nodi ardaloedd sydd mewn perygl o erydu arfordirol, ardaloedd sydd wedi gorlifo yn y gorffennol, a gwybodaeth allweddol am leoliad seilwaith amddiffyn rhag llifogydd.

Defnyddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel offeryn sgrinio gan awdurdodau lleol i ddeall ble y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i lywio asesiadau canlyniadau llifogydd sy’n benodol i safleoedd.

Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cynnwys haen o’r enw parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15.  Mae hyn yn dangos ardaloedd sy’n elwa o amddiffynfeydd llifogydd a reolir ac a gynhelir gan yr awdurdod rheoli risg, gyda’r safon amddiffyn gofynnol ganlynol:

  • 1 ym mhob 100 mlynedd (heddiw) ar gyfer afonydd
  • 1 ym mhob 200 mlynedd (heddiw) ar gyfer y môr

Ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd a adeiladwyd o 2016 ymlaen, rhaid caniatáu ar gyfer newid hinsawdd a rhaid mapio bwrdd rhydd dylunio fel parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15. Nid oes rhaid i amddiffynfeydd a adeiladwyd cyn 2016 gynnwys newid hinsawdd / bwrdd rhydd i fod yn gymwys fel parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15, ond maent yn dal i gynnig safon amddiffyn dda heddiw.

Mae’r safon amddiffyn yn cynrychioli’r amcangyfrif gorau ar sail y data asesu diweddaraf. Mewn rhai achosion, gall hyn fod sawl blwydd oed. Mae’n debyg y bydd angen i chi ailasesu hyn fel rhan o unrhyw asesiad canlyniadau llifogydd a gyflwynir i ategu cynnig datblygu. Efallai y bydd angen modelu hydrolig hefyd i bennu eu safon amddiffyn gyfredol.

Caiff parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 eu creu ar gyfer ffynonellau llifogydd unigol (h.y. afonydd neu’r môr). Nid oes parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Mae parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 yn galluogi awdurdodau cynllunio i ystyried datblygu mewn ardaloedd a allai fel arall gael eu mapio fel parth llifogydd 3 / parth llifogydd 2 a allai gyfyngu ar gyfleoedd i ddatblygu. 

Ni ddylid eu hystyried yn addas ar gyfer eu datblygu yn awtomatig. Rhaid dangos y risgiau a’r effeithiau, gan gynnwys asesiad o ddifrod, drwy asesiad canlyniadau llifogydd i benderfynu a ellir peri bod datblygiad yn rhydd rhag llifogydd ac yn ddiogel am weddill ei oes.

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (6)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
name
defends_against
defends_against_cy
sop_to_use
geom
pub_date

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Cynllunio Cadastre

Gwybodaeth a ddefnyddir ar gyfer camau priodol ar gyfer defnyddio'r tir yn y dyfodol. Enghreifftiau: mapiau defnydd tir, mapiau parthau, arolygon syfrdanol, perchnogaeth tir

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, flood map for planning, tan 15 defended zones
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg