1.1 Cefndir

Mae adeiladau a strwythurau o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael diogelwch cyfreithiol drwy gael eu rhoi ar ‘Restr’ o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig. O dan Adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal y rhestr hon.

Cynhaliwyd yr arolygiadau cyntaf o'r Rhestr yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Yn y 1990au a'r 2000au cynnar, cynhaliodd y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) raglen ymchwilio systematig ledled Cymru o'r enw ‘Ailarolwg Cymru’. Yn ystod yr ailarolwg, cafodd yr adeiladau ym mhob ardal gymunedol yng Nghymru eu hasesu ar gyfer eu Rhestru. Ers yr Ailarolwg, mae adeiladau wedi parhau i gael eu Rhestru ar sail thematig (er mwyn cynnwys rhai o'r mathau mwy modern o adeiladau) ac ar sail ad hoc. Mae'r broses hon yn barhaus. 

Yng Nghymru, mae mwy na 30,000 o adeiladau a strwythurau ar y Rhestr. Mae adeiladau rhestredig yn amrywio o Eglwysi Canoloesol i safleoedd masnachol modern ac ati, a gall strwythurau gynnwys rheiliau, pileri gatiau, waliau, cofebion rhyfel, cerrig beddi, blychau post, blychau ffôn ac ati.

Mae adeiladau ar y Rhestr yn cael un o dair gradd sy'n dynodi lefel eu pwysigrwydd, gyda Gradd I yn cael ei rhoi i'r adeiladau â'r pwysigrwydd mwyaf. Y Graddau yw: 

  • Gradd I – O ddiddordeb eithriadol
  • Gradd II* – O bwys penodol
  • Gradd II – O ddiddordeb arbennig

1.2 Pa Mor Aml y Caiff y Wybodaeth ei Diweddaru

Mae'r gwaith o Restru adeiladau a strwythurau yn broses barhaus. Gellir hefyd dynnu adeiladau a strwythurau o'r Rhestr mewn proses o'r enw ‘Dadrestru’.

Dyma'r fersiwn gyfredol, fyw o'r set ddata.

Er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o'r ddata o fan yma.

1.3 Darluniau

Os bydd y data'n cael eu hymgorffori mewn System Gwybodaeth Ddaearyddol, sylwer mai dim ond lleoliad yr adeilad rhestredig ei hun y mae data pwyntiau yn ei ddangos. Nid ydynt yn dangos holl fanylion y rhestriad sy'n cyflwyno diogelwch ar unrhyw wrthrych neu strwythur sy'n sownd i'r adeilad rhestredig ac sy'n ategol ato, neu sydd o fewn cwrtil yr adeilad sy'n rhan o dir yr adeilad a hynny ers 1 Gorffennaf 1948.

Gall rhai rhestriadau gynnwys un pwynt GIS, ond gall gyfeirio at nifer o adeiladau yn y disgrifiad rhestru, fel teras o dai. Mae'n bwysig peidio â dibynnu'n gyfan gwbl ar y data digidol hyn fel y brif ffordd o ddod o hyd i'r adeilad rhestredig. Rhaid defnyddio'r darlun pwyntiau ar y cyd â'r disgrifiad ar y rhestr er mwyn sicrhau bod yr adeilad cywir dan sylw.

Mae'r disgrifiad ar y rhestr i'w cael ar-lein yn Cof cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.

1.4 Defnyddio Data

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data hyn am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data yn addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael eu dehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data hyn eu gwirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: -

Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'u trwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

1.5 Gwybodaeth Arall

Mae rhagor o wybodaeth am Adeiladau Rhestredig i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: -

Adeiladau Rhestredig | Cadw (llyw.cymru)

Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: -

Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru)

1.6 Cyngor Cyffredinol

Dylid ceisio cyngor dehongli lle bo angen. Caiff y wybodaeth hon ei gwirio o bryd i'w gilydd, fodd bynnag, os hoffech drafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw). 

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (3)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (18)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
RecordNumber Rhif Cofnod
Name Enw
Name_cy Enw
DesignationDate Dyddiad Dynodi
Grade Gradd
Location Lleoliad
BroadClass Dosbarthiad Bras
BroadClass_cy Dosbarthiad Bras
DesignationStatus_en Statws Dynodiad
DesignationStatus_cy Statws Dynodiad
Easting Dwyreiniad
Northing Gogleddiad
Community Cymuned
UnitaryAuthority Awdurdod Unedol
UnitaryAuthority_welsh Awdurdod Unedol
Report Adroddiad
Report_welsh Adroddiad
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Cymdeithas

Nodweddion cymdeithas a diwylliannau. Enghreifftiau: aneddiadau, anthropoleg, archeoleg, addysg, credoau, moesau ac arferion traddodiadol, data demograffig, ardaloedd hamdden a gweithgareddau, asesiadau effaith gymdeithasol, trosedd a chyfiawnder, gwybodaeth cyfrifiad

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad creu:
01 Gorffenaf 1948
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
Cadw_ListedBuildings, features
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg