Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gyda'r nod o wella’r seilwaith a sicrhau cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n cerdded a beicio yng Nghymru. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys mapio’r llwybrau teithio llesol presennol (142 o ardaloedd dynodedig ar hyn o bryd) a llunio cynlluniau rhwydwaith integredig ar gyfer y lleoedd hyn.

Mae’r holl seilwaith teithio llesol sy’n bodoli’n barod ac wedi’i gymeradwyo yn yr ardaloedd dynodedig – y Mapiau Llwybrau Presennol – i’w gweld yma. Mae’r mapiau’n cynnwys llwybrau sydd wedi cyrraedd safonau statudol y Canllawiau Dylunio, yn ogystal â’r rhai sydd, yn nhyb yr awdurdod lleol, yn ddigon pwysig i’w cynnwys. Bydd unrhyw lwybrau nad ydynt wedi cyrraedd y safonau yn cynnwys datganiad sy’n egluro eu cyfyngiad(au).

Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno Map Rhwydwaith Integredig i Weinidogion Cymru ei ystyried erbyn 3 Tachwedd 2017. Dylai’r map ddangos y rhwydwaith o lwybrau y maent yn dymuno’i greu yn eu rhanbarth yn y 15 mlynedd nesaf.

Unwaith y byddant wedi cael eu cymeradwyo, bydd y llwybrau hyn i’w gweld yma.

Mae rhagor o fanylion am y Ddeddf, am roi’r Ddeddf ar waith a’r Safonau Dylunio i’w gweld yma.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (6)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
PathDesign
PathDescription
RouteID
RouteDescription
Statement
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad creu:
31 Rhagfyr 2016
Trwydded:
Cytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
activetravel_routesection_approvedroutes, features
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg