Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) 2019
Llywodraeth Cymru
Cyflwyniad
MALIC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ei nod yw canfod yr ardaloedd bach hynny o'r wlad sydd â'r crynoadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd.
Amddifadedd yw'r diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y byddem yn eu disgwyl yn ein cymdeithas. Gall hyn fod yn nhermau nwyddau materol neu allu'r unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.
MALlC - Meysydd
Grŵp o fesuriadau gwahanol wedi'u cyfuno'n un rhif yw Mynegai. Mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd:
- Incwm
- Cyflogaeth
- Iechyd
- Addysg
- Mynediad at wasanaethau
- Tai
- Diogelwch cymunedol
- Amgylchedd ffisegol
Mae MALlC yn rhoi graddfa i bob ardal bach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig). Nid yw'n rhoi mesuriad o lefel amddifadedd mewn ardal.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (17)
- Math:
- Map
- Dyddiad creu:
- 15 Ebrill 2021
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- Community Safety, Deprivation, Education, Employment, Environment, Health, Housing, Income, Services, WIMD
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Rhifyn
- 2019
- Pwrpas
<p>Proffil map i ddangos haenau gofodol MALlC 2019.</p>
- Iaith
- Saesneg
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol