Ffyrdd Eithriad drwy Orchymyn    Ffyrdd 20mya drwy Orchymyn

Ffyrdd 20mya gyfyngedig    Ffyrdd 30mya presennol drwy Orchymyn

I weld y map llawn, gan gynnwys 20mya trwy Orchymyn a ffyrdd cyfyngedig 20mya, dewiswch y botwm Dangos yn y syllwr mapiau.

Cyflwyniad

Pan bleidleisiodd y Senedd o blaid ym mis Gorffennaf 2022, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya. Mae’r terfyn cyflymder newydd yn od d i rym ar dydd Sul 17 Medi 21.

Nid yw y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, bydd yn newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya. Mae awdurdodau priffyrdd, sy’n adnabod eu hardal orau, wedi ymgysylltu â’u cymunedau lleol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya.

Eithriadau i’r terfynau cyflymder diofyn 20mya

Mae’r map hwn yn dangos:

a. ffyrdd sy’n cadw terfyn cyflymder o 30mya (‘eithriadau’)

Mae rhai awdurdodau priffyrdd hefyd wedi dangos:

b. ffyrdd sydd eisoes yn 30mya trwy Orchymyn ac sy'n aros ar 30mya

c. ffyrdd sydd yn 20mya yn rhinwedd deddfwriaeth (ffyrdd cyfyngedig)

d. ffyrdd sydd yn 20mya drwy Orchymyn

Cysylltwch a’r awdurdod priffyrdd yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth. Nid yw’r map yn dangos terfynau cyflymder 20mya rhan-amser.

Am ragor o wybodaeth am Weithredu Cenedlaethol 20mya, ewch i: Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin

Datblygwyd proses eithriadau a meini prawf i arwain awdurdodau priffyrdd ar benderfynu pa rannau o ffyrdd ddylai fod yn eithriadau i'r terfynau cyflymder 20mya ac aros ar 30mya.

Mae’r awdurdodau priffyrdd wedi darparu setiau data Cymru gyfan i gynhyrchu mapiau sy'n seiliedig ar wybodaeth leol.

Map rhyngweithiol

Mae'r map rhyngweithiol hwn yn dod a data eithriadau ar gyfer y 23 Awdurdod Priffyrdd.

Yr awdurdod priffyrdd perthnasol sy'n pennu'r manylion ynghylch ble mae unrhyw derfynau cyflymder yn dechrau ac yn gorffen.

Noder fod y map rhyngweithiol hyn at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Am ragor o wybodaeth am sut i ryngweithio â’r map, gweler y canllaw defnyddiol hwn.

Statws ffyrdd

Mae y ffyrdd sydd angen TRO arnynt i newid y terfyn cyflymder (categorïau ‘a’ a ‘d’ uchod) yn ymddangos ar y map mewn tri cham:

CAM 1 yn dangos ffyrdd lle mae awdurdodau priffyrdd yn paratoi gorchmynion rheoleiddio traffig drafft.

CAM 2 yn dangos ffyrdd lle mae hyd y terfyn cyflymder arfaethedig wedi'i gwblhau ac mae'r awdurdod priffyrdd wedi hysbysebu'r TRO drafft. Dewiswch y ffyrdd hyn i ddod o hyd i wefan yr awdurdod priffyrdd perthnasol i adolygu'r cynnig a rhoi sylwadau.

CAM 3 yn nodi ffyrdd lle mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben a bod gweithdrefnau perthnasol ar waith i ymdrin â gwrthwynebiadau a selio'r TRO.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (0)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
20 mph, 20mph, 20mya, 30 mph, 30mph, 30mya, cyflymder, ffyrdd, ffyrdd cyfyngedig, limit, mph, mya, restricted roads, roads, speed, terfyn
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn