Cymru: Buddsoddiad Cyfalaf mewn Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2023-24
Llywodraeth Cymru
Ym mis Ebrill 2023, cytunodd Gweinidog Newid Hinsawdd ar y cynlluniau a fyddai’n cael eu cynnwys yn y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2023-24. Nod y cynlluniau hyn, sy’n cael eu harwain gan yr Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yw lleihau perygl llifogydd a/neu erydu arfordirol i gartrefi ledled Cymru.
Mae’r map hwn yn dangos yn fras lleoliadau’r cynlluniau y dyrannwyd cyllid ar eu cyfer ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.
Mae'r data a ddangosir yn y map hwn yn gywir ar 20 Ebrill 2023 a gallai fod wedi ei newid ar ôl y dyddiad hwn
Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol
Fydd y "Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol" yn dilyn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli llifogydd yn nalgylchoedd ein holl afonydd mawr.
Bydd y rhaglen ddwy flynedd yn helpu'r Awdurdodau Rheoli Risg i gydweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir a mudiadau'r trydydd sector yng Nghymru i gynnal atebion sy'n defnyddio grym natur i leihau llifogydd.
Mae'r data a ddangosir yn y map hwn yn gywir ar 25 Hydref 2023 a gallai fod wedi ei newid ar ôl y dyddiad hwn.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (10)
- Math:
- Map
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad addasu:
- 13 Tachwedd 2023
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- Arfordirol, Coastal, Flood, Llifogydd
- Pwynt cyswllt:
- floodcoastalrisk@gov.wales
- Rhifyn
- 25th October 2023
- Pwrpas

Mae’r map hwn yn dangos lleoliadau’r cynlluniau y dyrannwyd cyllid ar eu cyfer ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24

- Iaith
- Saesneg
- Ansawdd y data

Darparwyd yr wybodaeth ar y map hwn gan yr Awdurdodau Lleol a CNC a nhw sy’n gyfrifol am ymgymryd â’r cynlluniau hyn.

Er bod y cyllid hwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer y cynlluniau hyn, mater i’r Awdurdod Rheoli Risg Priodol (yr Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru) yw bwrw ymlaen ac ymgymryd â’r cynlluniau hyn.

Mae cyllid i fwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu yn amodol ar gwblhau a chytuno ar achos busnes priodol ac ar gael y caniatâd a’r cysyniadau perthnasol.

Mae costau’n dal i fod yn amcangyfrifon nes i’r gwaith gael ei roi ar dendr.

- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol