Map Statws Cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae'r map hwn yn cynnwys gwybodaeth am brosiectau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) diweddar yng Nghymru. Cafodd y prosiectau hyn eu casglu fel rhan o adolygiad o NFM yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion am yr adolygiad hwn a sut y cafodd y prosiectau hyn eu casglu ar gael yma.

Datblygwyd y map hwn i helpu i ddeall prosiectau Rheoli Llifogydd Naturiol ledled Cymru. Roedd y data ynghylch gwahanol brosiectau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn deillio o ffurflenni a anfonwyd at randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Gall cywirdeb daearyddol fod yn wahanol rhwng prosiectau gan fod pwyntiau yn deillio o wybodaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid mewn fformat heb ei fapio ac felly dylid ei ystyried yn ddangosol.

Gall gwybodaeth yn yr adroddiad statws hefyd fod yn wahanol o ran cywirdeb oherwydd y ffordd o’i gasglu, cam y prosiect, lefel yr adroddiadau sydd ar gael, ac yn hanfodol y dyddiad y cafwyd yr wybodaeth o'i gymharu â'r dyddiad cyhoeddi uchod. Mae'r adroddiad statws hwn felly'n rhoi "cipolwg o gyfnod". Gwybodaeth a gasglwyd am brosiectau o 2015 – 2022.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (5)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol
Darllenwch y metadata llawn