Llwybr Coedwig Cymru Trail
Llywodraeth Cymru
Mae'r cysyniad o Lwybr Coedwig Cymru yn rhan o ddatblygiad y Goedwig Genedlaethol sy'n rhychwantu Cymru. Bydd Llwybr Coedwig Cymru yn helpu i greu rhwydwaith o lwybrau rhyng-gysylltiedig sy'n rhedeg ar hyd a lled Cymru gan uno safleoedd coetiroedd y Goedwig Genedlaethol.
Yr uchelgais yw y bydd Llwybr Coedwig Cymru yn dod â'r manteision canlynol:
- Cysylltu pobl â choetiroedd a natur gan wella iechyd corfforol a meddyliol;
- Darparu cyfleoedd economaidd a thwristiaeth i fusnesau a grwpiau lleol; a
- Gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ein hamgylcheddau coetir trwy sefydlu 'coridorau gwyrdd' a chefnogi lefelau uwch o blannu coed / gwrychoedd lle bo hynny'n briodol.
Bydd adran beilot o Lwybr Coedwig Cymru yn dechrau o Borthceri i Lyn Nedd. Bydd y gwersi a ddysgwyd o gyflwyno'r adran beilot hon yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu Llwybr Coedwig Cymru ar draws Cymru ymhellach.
Mae lliw’r llwybrau ar y map yn cynrychioli pob adran wahanol o’r llwybr. Nid ydynt yn cynrychioli’r math o lwybr.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (3)
- Math:
- Map
- Dyddiad cyhoeddi:
- 28 Ionawr 2026
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- National Forest Trail, Wales Woodland Walk
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg