Beth yw diben y syllwr ar-lein?

Defnyddir y syllwr ar-lein i roi gwybod i’r cyhoedd am lwybrau uniongyrchol caniataol ac ardaloedd mynediad sydd ar gael drwy Glastir.

Ymwybyddiaeth o Fynediad Caniataol Glastir:

Mae Contractau Glastir yn sicrhau gwelliannau amgylcheddol ar gyfer sawl amcan gan gynnwys darparu llwybrau uniongyrchol newydd a mynediad i ardaloedd newydd.

Mae manylion llwybrau Mynediad Caniataol Glastir yn cael eu hysbysebu ar wefan Lle i godi ymwybyddiaeth o'u lleoliad er mwyn i ddefnyddwyr allu cynllunio’u teithiau ymlaen llaw.

Mae tudalen Lle Mynediad Glastir yn caniatáu i ddefnyddwyr edrych ar wybodaeth arall hefyd gan gynnwys gwybodaeth am fynediad megis llwybrau hamdden a thir mynediad o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000). Mae map sylfaen yr Arolwg Ordnans yn galluogi defnyddwyr i gysylltu cyfleoedd Mynediad Glastir â hawliau tramwy cyhoeddus a mannau hygyrch gwyrdd a glas eraill..

Ceir rhagor o wybodaeth am Glastir yma yma:

Gall hawliau tramwy newid ac efallai na fyddant wedi’u marcio’n glir. Dylech gysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Canllawiau er mwyn gweld Llwybrau / Ardaloedd Glastir:

  • trowch y mapiau OS i ffwrdd er mwyn canfod y llwybrau Glastir yn eich ardal leol.
  • trowch yr haen yn ôl ymlaen ar ôl chwyddo mewn ar y llwybr o dan sylw.
  • defnyddiwch y cyrchwr i symud y map.
  • cliciwch ar y llwybr er mwyn gweld gwybodaeth.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (10)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad creu:
05 Awst 2021
Trwydded:
Heb ei nodi

Hawlfraint:

Ddim yn berthnasol

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn