Mae'r cysyniad o Lwybr Coedwig Cymru yn rhan o ddatblygiad y Goedwig Genedlaethol sy'n rhychwantu Cymru. Bydd Llwybr Coedwig Cymru yn helpu i greu rhwydwaith o lwybrau rhyng-gysylltiedig sy'n rhedeg ar hyd a lled Cymru gan uno safleoedd coetiroedd y Goedwig Genedlaethol.

Yr uchelgais yw y bydd Llwybr Coedwig Cymru yn dod â'r manteision canlynol:

  • Cysylltu pobl â choetiroedd a natur gan wella iechyd corfforol a meddyliol;
  • Darparu cyfleoedd economaidd a thwristiaeth i fusnesau a grwpiau lleol; a
  • Gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ein hamgylcheddau coetir trwy sefydlu 'coridorau gwyrdd' a chefnogi lefelau uwch o blannu coed / gwrychoedd lle bo hynny'n briodol.

Bydd adran beilot o Lwybr Coedwig Cymru yn dechrau o Borthceri i Lyn Nedd. Bydd y gwersi a ddysgwyd o gyflwyno'r adran beilot hon yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu Llwybr Coedwig Cymru ar draws Cymru ymhellach.

Mae lliw’r llwybrau ar y map yn cynrychioli pob adran wahanol o’r llwybr. Nid ydynt yn cynrychioli’r math o lwybr.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (3)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
National Forest Trail, Wales Woodland Walk
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn