Nid yw’r mislif yn ddewis ac mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu’r map hwn, a weithredir gan MapDataCymru, er mwyn ichi allu dod o hyd i nwyddau mislif am ddim, pryd a lle bo’u hangen, ni waeth lle ydych yn byw yng Nghymru.

Rydym wedi gweithio gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac ar gael yn rhwydd i bawb. Mae modd defnyddio hidlyddion y map i weld gwahanol fathau o sefydliadau sy’n cyflenwi nwyddau mislif am ddim, gan ddod o hyd i’r lle agosaf i chi. I gael y nwyddau hyn mewn ysgol, fel arfer bydd raid ichi fod yn fyfyriwr yn yr ysgol honno, oni bai fod yr ysgol hefyd wedi’i rhestru fel man casglu cymunedol.

Rydym yn darparu cyllid i awdurdodau lleol bob blwyddyn i sicrhau nwyddau mislif am ddim mewn ysgolion, colegau a chymunedau ledled Cymru. Dylai pawb allu cael gafael ar nwyddau mislif, pryd a lle bo’u hangen, i’w defnyddio mewn lle preifat sy’n ddiogel ac yn cynnig urddas. Dyna pam mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweithio’n galed i helpu menywod, merched a’r rhai sy’n cael mislif i gael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt, am ddim.

Os ydych yn darparu nwyddau mislif am ddim ac yn awyddus i fod ar y map, cysylltwch ag UrddasMislif@llyw.cymru.

I wybod lle mae’r toiledau agosaf, mae’r Map Toiledau Cenedlaethol ar gael ar MapDataCymru.

Sylwch fod y lleoliadau'n cael eu huwchlwytho a'u diweddaru'n barhaus.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (0)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Cytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn