Map Blaenoriaethu ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol
Llywodraeth Cymru
Mae'r map hwn yn cyflwyno dull o flaenoriaethu Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) yng Nghymru. Datblygwyd y dull hwn fel rhan o adolygiad o NFM yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion am yr adolygiad hwn a sut y crëwyd y map hwn ar gael yma.
Datblygwyd y map hwn i roi trosolwg strategol o'r ardaloedd sy'n fwy addas ar gyfer NFM. Mae dalgylchoedd wedi'u nodi i fyny'r afon o gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac wedi eu hasesu yn dibynnu ar y ganran o’r arwynebedd sydd â photensial NFM. Caiff mwy o botensial ar gyfer NFM ei asesu fel blaenoriaeth uwch yn seiliedig ar y mwy o botensial o leihau perygl llifogydd.
Crëwyd pedair set ddata wahanol i dargedu dwy raddfa dalgylch wahanol, dalgylchoedd perygl llifogydd dŵr wyneb bach a dalgylchoedd perygl llifogydd afonol mwy ac i adlewyrchu amcanion sy’n flaenoriaeth i ddefnyddwyr gwahanol, rheoli perygl llifogydd a manteision amgylcheddol ehangach.
Dylid ystyried y mapiau yn 'ddangosol' yn unig, gan y bydd ystyriaethau a chyfyngiadau eraill y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu cynlluniau NFM. Dylid defnyddio'r mapiau ar y cyd â gwybodaeth leol, setiau data eraill ac ymgysylltu cynnar a llawn â thirfeddianwyr a meddiannwyr.
Nid yw'r mapiau yn cyfrif am ostyngiad mewn perygl llifogydd i asedau unigol. Byddai angen dadansoddiad pellach, manylach i gyflawni'r lefel hon o ddealltwriaeth.
Mae Canllaw Defnyddwyr ar gyfer y map hwn ar gael yma.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (8)
- Math:
- Map
- Dyddiad cyhoeddi:
- 18 Chwefror 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- floodcoastalrisk@gov.wales
- Iaith
- Saesneg
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol