Ffyrdd Eithriad drwy Orchymyn    Ffyrdd 20mya drwy Orchymyn

Ffyrdd 20mya gyfyngedig    Ffyrdd 30mya presennol drwy Orchymyn

I weld y map llawn, gan gynnwys 20mya trwy Orchymyn a ffyrdd cyfyngedig 20mya, dewiswch y botwm Dangos yn y syllwr mapiau.

Cyflwyniad

Pan bleidleisiodd y Senedd o blaid ym mis Gorffennaf 2022, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya. Mae gwaith ar y gweill i baratoi Cymru ar gyfer y newid, gyda’r terfyn cyflymder newydd yn dod i rym ar 17 Medi 2023.

Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, bydd yn gwneud y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn 20mya. Mae awdurdodau priffyrdd, sy’n adnabod eu hardal orau, yn dechrau ymgysylltu â’u cymunedau lleol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya.

Eithriadau i’r terfynau cyflymder diofyn 20mya

Mae’r map hwn yn dangos cynigion drafft ar gyfer:

a. ffyrdd a allai gadw terfyn cyflymder o 30mya (‘eithriadau’)

Ar gyfer rhai awdurdodau priffyrdd bydd hefyd yn dangos:

b. ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn 30mya trwy Orchymyn fydd yn aros ar 30mya

c. ffyrdd fydd yn dod yn 20mya yn rhinwedd deddfwriaeth (ffyrdd cyfyngedig)

d. ffyrdd a allai ddod yn 20mya drwy Orchymyn

Cysylltwch a’r awdurdod priffyrdd yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth am Weithredu Cenedlaethol 20mya, ewch i: Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin

Datblygwyd proses a meini prawf ar gyfer eithriadau a’u diweddaru’n ddiweddarach yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan wyth o aneddiadau cam cyntaf 20mya ledled Cymru.

Defnyddiwyd setiau data Cymru gyfan i gynhyrchu mapiau drafft - gan nodi lle gallai eithriadau fod yn briodol - y mae awdurdodau priffyrdd wedi bod yn eu mireinio a'u diweddaru ar sail gwybodaeth leol.

Map rhyngweithiol

Mae'r map rhyngweithiol hwn yn dod a data eithriadau ar gyfer y 23 Awdurdod Priffyrdd at eu gilydd ac yn cynnig syniad o'u cynlluniau arfaethedig.

Yr Awdurdod Priffyrdd perthnasol fydd yn penderfynu ar leoliad unrhyw derfynau cyflymder a gynigir gan y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ffyrdd (TRO) a byddant yn cael eu dangos ar y Gorchmynion terfyn cyflymder drafft. Nid yw'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yma yn rhan o, nac yn rhagdybio, y broses statudol (parhaol) gorchymyn rheoleiddio traffig ffyrdd (TRO), a dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau ffurfiol i'r Awdurdod Priffyrdd perthnasol pan gyhoeddir y TROs drafft.

Noder fod y map rhyngweithiol hyn at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Am ragor o wybodaeth am sut i ryngweithio â’r map, gweler y canllaw defnyddiol hwn.

Statws ffyrdd

Bydd y ffyrdd sydd angen TRO arnynt i newid y terfyn cyflymder (categorïau ‘a’ a ‘d’ uchod) yn ymddangos ar y map mewn tri cham:

CAM 1 yn dangos ffyrdd lle mae awdurdodau priffyrdd yn paratoi gorchmynion rheoleiddio traffig drafft.

CAM 2 yn dangos ffyrdd lle mae hyd y terfyn cyflymder arfaethedig wedi'i gwblhau ac mae'r awdurdod priffyrdd wedi hysbysebu'r TRO drafft. Dewiswch y ffyrdd hyn i ddod o hyd i wefan yr awdurdod priffyrdd perthnasol i adolygu'r cynnig a rhoi sylwadau.

CAM 3 yn nodi ffyrdd lle mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben a bod gweithdrefnau perthnasol ar waith i ymdrin â gwrthwynebiadau a selio'r TRO.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (0)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
20mph, 20mya, 30mph, 30mya, ffyrdd cyfyngedig, restricted roads
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn